Cynnwy

  • Rhagair
  • Crynodeb gweithredol
  • Cyflwyniad
  • Dadansoddiad ac asesiad o’r farchnad
  • Ein gweledigaeth a’n cenhadaeth
  • Ein nodau a chanlyniadau
  • Ein gweithgarwch
  • Ein methodoleg
  • Blaenoriaeth 1 – GBE Local
  • Blaenoriaeth 2 – Ynni ar y Tir
  • Blaenoriaeth 3 – Ynni ar y Môr, arnofiol a dŵr dwfn
  • Rhaglen Energy, Engineered in the UK
  • Cyflawni mewn cydweithrediad ag eraill
  • Ein pobl a’n gwerthoedd
  • Sut rydym yn cynnal busnes
  • Mesur llwyddiant
  • Map
  • Rhagair
  • Cyfeiriadau 

Rhagair

Rhagair y Cadeirydd 

Pan lansiwyd Great British Energy (GBE) yn 2024, roedd yn deillio o gred syml – sef y dylai pobl Prydain gael yr hawl i fod yn berchen ar ein hadnoddau naturiol a chael budd ohonynt. Mae’r adnoddau hyn yn eiddo i bob un ohonom ac fe ddylid eu harneisio er lles pawb.

Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld yr asedau a'r seilwaith sy'n pweru ein cartrefi a'n busnesau yn symud i ddwylo perchnogion tramor – dad-ddiwydiannu ar gyfradd ddychrynllyd a gwylio wrth i werth economaidd adael y DU i bweru economïau mewn mannau eraill.

Nod GBE yw sicrhau gwell cydbwysedd a dod yn hyrwyddwr ynni'r DU, gan gyflymu'r broses o ddefnyddio technolegau ynni glân sydd o fudd i bob un ohonom.

Mae'r ddogfen hon yn ceisio egluro'r mecanweithiau a'r ysgogiadau y gallwn eu defnyddio i sicrhau newid gwirioneddol i bobl Prydain. Mae'n ymrwymo i'r swyddi sy'n talu'n dda y byddwn yn eu creu. Mae'n dangos y meysydd technoleg y byddwn yn buddsoddi ynddynt. Ac mae'n dangos yr ymyriadau y gallwn eu gwneud yn y gadwyn gyflenwi i ddenu gweithgynhyrchwyr yn ôl i'n trefi a'n dinasoedd.

Mae hyn yn rhan o fudiad ehangach i greu naratif newydd ynghylch trawsnewid i ynni adnewyddadwy, gan ei ail-fframio fel cyfle economaidd unigryw yn hytrach na dim ond lleihau allyriadau. Mae'n ymwneud â bod yn optimistaidd am ynni fel sbardun ar gyfer cyfoeth a gwerth, ac – yn ei hanfod - mae'n ymwneud â chreu swyddi, diwydiannau newydd a biliau is.

Ond os ydym wedi dysgu unrhyw beth o hanes, rydym wedi dysgu nad yw’r trawsnewid yn digwydd ar ei ben ei hun. Mae dull gweithredu ynni cyfan o fudd i bawb, ac mae’n sicrhau bod prisiau'n aros yn sefydlog, bod swyddi'n ddiogel a bod diwydiannau’n cael eu cynnal. Mae’r trawsnewid yn digwydd ar gefn y system flaenorol, sy'n golygu bod angen cydweithredu a chydlafurio. 

Bydd yn cymryd amser, a bydd yn cymryd amynedd gan y cyhoedd ym Mhrydain cyn y gwelwn holl fanteision llawn trawsnewid i ynni adnewyddadwy sy'n cael ei arwain ym Mhrydain, sydd wedi’i drydaneiddio’n llawn, ac sydd wedi’i datgarboneiddio’n llwyr.

Bydd Great British Energy yn chwarae rhan ganolog ac yn gweithredu fel hyrwyddwr ynni’r DU dros y degawdau nesaf.

Juergen Maier CBE, FRS, FREng, Cadeirydd Great British Energy.

Rhagair y Prif Swyddog Gweithredol 

Heddiw, 250 mlynedd ar ôl y Chwyldro Diwydiannol, rydym wrth galon trawsnewidiad arall sy'n diffinio'r oes: trawsnewid i ynni adnewyddadwy. Prin yw'r cyfleoedd sy'n cynnig cymaint o botensial i arwain a theimlo balchder yn y DU. Ar adeg pan fo'r genedl yn ceisio twf, mae blaenoriaethu arloesi a buddsoddiad mewn ynni glân yn synnwyr busnes cadarn.

Mae beirniaid yn dadlau bod y dechnoleg yn cael ei gwneud dramor, ei bod yn rhy ddrud, ac nad oes angen trawsnewid i ynni adnewyddadwy. Nid yw'r naratif hwn yn wir yn wrthrychol. Dangosodd traciwr Ynni Cyhoeddus yr Adran Ynni a Sero Net yn ystod haf 2025 fod 79% o'r cyhoedd ym Mhrydain yn poeni am newid yn yr hinsawdd, a bod 80% yn cefnogi defnyddio ynni adnewyddadwy. Diffyg gweledigaeth yw bychanu ein potensial diwydiannol mewn ynni glân. Mae'r technolegau sy'n sbarduno'r trawsnewid yn amrywiol. Mae ein harbenigedd mewn olew a nwy ar y môr yn ein rhoi mewn sefyllfa i arwain ym maes peirianneg dŵr dwfn - ras lle gall ein dinas enedigol, Aberdeen, ffynnu.

Mae'r DU yn dal yn rhan o farchnad ynni sy'n cael ei masnachu'n fyd-eang, sy'n golygu bod newidiadau mewn prisiau rhyngwladol yn dal yn gallu effeithio ar gyllid cyhoeddus. Felly, mae datblygu ffynonellau ynni domestig mwy amrywiol yn bwysig er mwyn rhoi mwy o sefydlogrwydd hirdymor i aelwydydd. Mae'r Newid yn yr Hinsawdd yn digwydd, ac nid oes gan y DU ddewis arall ond arwain. Mae GBE yn ymwneud â rhoi llais i bobl Prydain yn yr arweinyddiaeth honno – cwmni i fod yn falch ohono.

Mae ein strategaeth yn waith o ymgysylltu â diwydiant, cymdeithas ddinesig a grwpiau defnyddwyr, wedi'i gyfuno, wedi'i ategu gan dystiolaeth a gweledigaeth. Mae'n cydbwyso cyflawni canlyniadau tymor byr – yn enwedig yn ein busnes GBE Local – ar yr un pryd â helpu i siapio system ynni'r dyfodol. Mae hynny'n golygu datgloi diwydiannau a thechnolegau newydd sy'n adfywio Prydain i edrych yn ôl gyda balchder bod y DU wedi cymryd rôl arweiniol yn y trawsnewidiad hwn sy’n diffinio’r oes.

Dan McGrail, Prif Swyddog Gweithredol Great British Energy.

Crynodeb gweithredol 

Great British Energy: Yn Lân a Chadarn i Chi.

Great British Energy (GBE) yw cwmni ynni sy’n eiddo cyhoeddus i’r DU ar gyfer oes newydd o bwrpas cenedlaethol. 

Ein cenhadaeth

Mae ein cenhadaeth yn syml ac yn feiddgar:

Perchnogaeth Gyhoeddus o Ynni gyda Phwrpas: cyflymu ynni glân a'r diwydiannau sy'n ei gefnogi i sicrhau bod gweithwyr a chymunedau'n elwa ar ynni glân, diogel a lleol.

Mae'r DU wedi dibynnu ers gormod o amser ar ynni wedi'i fewnforio, tra bo cwmnïau eraill sy'n eiddo i'r wladwriaeth wedi cael budd o fod yn berchen ar ein hasedau ynni hanfodol. Mae GBE yn cynrychioli toriad pendant: hyrwyddwr ynni cenedlaethol a fydd yn cynllunio, yn buddsoddi ac yn adeiladu'r seilwaith sy'n pweru ein dyfodol ac yn rhoi’r cyhoedd ym Mhrydain wrth galon y system ynni.

Mae perchnogaeth gyhoeddus gyda phwrpas yn golygu ein bod yn defnyddio cyfalaf cyhoeddus i ddatgloi buddsoddiad preifat, yn hytrach na’i ddisodli. Yn gyntaf oll, bydd GBE yn ddatblygwr ynni; bydd yn berchen ar asedau ac yn eu gweithredu gan ddefnyddio buddsoddiadau i sbarduno twf, ac adeiladu diwydiannau sy'n para. Mae enillion o asedau y mae'r cyhoedd yn berchen arnynt yn cael eu hail-fuddsoddi, yn ôl i fwy o gapasiti, mwy o swyddi, a mwy o gyfleoedd.

Dyma ein Cynllun Strategol cyntaf. Mae'n nodi sut mae'r cwmni'n gosod ei hun i gyflawni ei genhadaeth. Rydym yn dechrau drwy osod ein nodau a’n thargedau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. 

Ein nodau a chanlyniadau

  • Cyflymu'r broses o gynhyrchu ynni glân: Sefydlu portffolio drwy fuddsoddiad a pherchnogaeth a fydd yn darparu o leiaf 15 GW mewn capasiti storio a chynhyrchu ynni glân ac yn ysgogi £15bn o gyllid preifat dros amser, drwy wariant GBE rhwng nawr a 2030.
  • Pweru cymunedau: Erbyn 2030, cynnal mwy na 1,000 o brosiectau ynni lleol a chymunedol, gan roi hwb i berchnogaeth gymunedol.
  • Datgloi sylfaen ddiwydiannol y DU: Ysgog trawsnewid cyfiawn gan gyllido prosiectau i gynnal o leiaf 10,000 o swyddi erbyn 2030, gan gynnwys sgiliau a lleoliadau sydd, yn hanesyddol, yn dibynnu ar olew a nwy. Byddwn hefyd yn lansio rhaglen Energy Engineered in the UK gwerth £1 biliwn i dyfu ein cadwyn gyflenwi ynni glân.
  • Sicrhau enillion a gwerth hirdymor: Bydd GBE yn adeiladu portffolio a fydd yn cynhyrchu incwm erbyn 2030 ac ar lwybr at broffidioldeb ar draws y cwmni.

Ein gweithgarwch 

Byddwn yn ysgogi'r canlyniadau hyn drwy sefydlu ein swyddogaeth datblygu prosiectau ein hunain, gan roi cyfran i'r cyhoedd mewn asedau drwy gydol y cylch oes datblygu.

Bydd ein buddsoddiadau cychwynnol yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth a fydd yn cyflawni ein nodau orau ar draws portffolio cytbwys. Dyma ein meysydd blaenoriaeth:

  • GBE Local – y grym trawsnewidiol sy'n gwneud ynni lleol a pherchnogaeth gymunedol yn gyffredin, gan sicrhau bod cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yn elwa'n uniongyrchol ar y seilwaith maent yn ei gynnal.
  • Ynni ar y Tir – datgloi potensial ynni tir cyhoeddus a buddsoddi'n strategol i gyflawni anghenion y DU o ran hyblygrwydd a sefydlogrwydd y grid.
  • Ynni ar y Môr – rhoi hwb i swyddi a thwf yn yr Alban a'r Môr Celtaidd drwy ddatgloi'r ardal newydd ym maes ynni gwynt ar y môr, sef dyfroedd dyfnach.

Ar draws ein holl flaenoriaethau a’r tu hwnt, bydd ein swyddogaeth cadwyn gyflenwi yn buddsoddi mewn mentrau i liniaru’r cyfyngiadau, ysgogi twf a chyfrannu at Strategaeth Ddiwydiannol y DU, gan ddarparu’r rhaglen Energy, Engineered in the UK. 

Cyflwyniad 

Mae Great British Energy (GBE) yn hyrwyddwr ynni sy'n eiddo cyhoeddus, sydd wedi'i greu i gyflymu'r broses o ddefnyddio technolegau ynni glân a sicrhau bod trethdalwyr, talwyr biliau, cymunedau a'r gweithlu ynni yn y DU yn elwa ar system ynni lân a diogel.  

Ein huchelgais yw dod yn sefydliad cenedlaethol parhaol y bydd y cyhoedd ym Mhrydain yn falch ohono: datblygwr, adeiladwr a pherchennog ynni lleol sy'n Lân, Diogel ac yn Eiddo i Chi. O'n safle yn Aberdeen, rydym yn adeiladu GBE nid yn unig fel cwmni, ond fel conglfaen tirwedd ynni'r DU: hyrwyddwr cyhoeddus dibynadwy, tryloyw ac arloesol sy'n sefyll ochr yn ochr â’r prif gwmnïau ynni sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn Ewrop. Bydd GBE yn cael ei gydnabod gartref a thramor fel sefydliad ynni o'r radd flaenaf sy'n ymgorffori gwerthoedd, arbenigedd ac uchelgais y DU. 

Roedd Deddf Ynni Prydain Fawr, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Mai 2025, yn darparu ar gyfer sicrhau bod cwmni ynni cenedlaethol cyhoeddus cyntaf y DU yn cael datblygu, perchenogi a gweithredu asedau ynni ers preifateiddio'r Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog ar ddechrau'r 1990au. Roedd Adolygiad o Wariant 2025 wedi neilltuo dros £8.3 biliwn i GBE a GBE-Nuclear* i'w ddefnyddio tuag at ein cenadaethau o ddarparu ynni glân i'r bobl.

  • Mai 2025 - Deddf Ynni Prydain Fawr yn cael Cydsyniad Brenhinol
  • Mehefin 2025 - £8.3 biliwn wedi'i ddyfarnu i GBE a GBE-Nuclear yn Adolygiad o Wariant 2025
  • Medi 2025 - Datganiad Blaenoriaethau Strategol. Mae’n nodi amcanion craidd GBE
  • Rhagfyr 2025 - Cyhoeddwyd Cynllun Strategol GBE 

Nodyn: Bydd Great British Energy a Great British Energy – Nuclear (GBE-N) yn gweithredu fel dau gwmni ar wahân sy'n eiddo cyhoeddus gyda chenhadaeth gyffredin i gyflymu'r broses o ddefnyddio asedau ynni glân. Bydd GBE yn datblygu asedau adnewyddadwy a storio sy'n gweithio'n unol â GBE-N; bydd y rhain yn helpu i gyflawni rhaglen niwclear Llywodraeth y DU. 

Ein Cynllun Strategol cyntaf yw ein hymateb ffurfiol i Ddatganiad o Flaenoriaethau Strategol llywodraeth y DU ar gyfer GBE1. Mae’r Cynllun yn nodi sut bydd GBE yn cyflawni’r amcanion a nodir yn y Datganiad o Flaenoriaethau Strategol. Mae'n egluro sut byddwn yn sefydlu ac yn datblygu ein gweithrediadau i gyflawni ein cenhadaeth a'n nodau. Mae’n amlinellu’r gweithgareddau y byddwn yn ymgymryd â nhw a sut rydym yn bwriadu gweithredu.

Er ein bod ym mherchnogaeth lwyr yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net, rydym yn annibynnol yn weithredol ar lywodraeth y DU. Mae'r annibyniaeth hon yn hanfodol i'n rôl: mae'n ein galluogi i weithredu fel corff arbenigol dibynadwy sy'n gallu gwneud penderfyniadau diduedd yn seiliedig ar dystiolaeth yn y farchnad ynni er mwyn mynd ati yn y ffordd orau i gyflawni'r amcanion a nodir yn y Datganiad o Flaenoriaethau Strategol.

Mae'r Cynllun yn fan cychwyn i GBE ddod yn sefydliad cyhoeddus parhaus, gan ddechrau â'n nodau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Byddwn yn diweddaru ein Cynllun Strategol bob dwy flynedd i rannu ein dull gweithredu strategol a rhoi gwybod i’r farchnad am ein sefyllfa. 

Er mai 5 mlynedd yw cwmpas y cynllun, rydym yn mynd ati’n fwriadol iawn i edrych y tu hwnt i 2030. Bydd GBE yn helpu i siapio’r dirwedd ynni hyd at 2035, 2050 a’r tu hwnt, gan barhau i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gorfod digwydd nawr i ddatgloi system ynni’r dyfodol. 

Megis dechrau mae ein taith, ac rydym yn cydnabod bod angen i ni gyfuno uchelgais â sefydlu ein cymwyseddau craidd er mwyn sicrhau effaith barhaol. Bydd y blynyddoedd cynnar hyn yn canolbwyntio ar feithrin arbenigedd blaenllaw yn y diwydiant, sefydlu partneriaethau, a gosod sylfaen o lwyddiannau masnachol cynnar i adeiladu arnynt. 

Datblygu ein Cynllun Strategol 

Mae cydweithio yn allweddol i'r ffordd mae GBE yn gweithredu, gan ddefnyddio'r wybodaeth orau gan randdeiliaid cyhoeddus a phreifat.

Wrth ddatblygu ein Cynllun Strategol rydym wedi gwneud y canlynol:

  • Ymgysylltu â mwy na 100 o sefydliadau
  • Cynnull trafodaethau bwrdd crwn a gweithdai yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • Cwrdd â chynrychiolwyr ar draws y sectorau ynni a chyllid, gan gynnwys datblygwyr, cwmnïau’r gadwyn gyflenwi, buddsoddwyr a phrosiectau ynni cymunedol
  • Cwrdd â'r llywodraethau, sefydliadau partner a chyrff hyd braich perthnasol
  • Darparu cyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar y cynllun strategol o'n fforymau arbenigol presennol (Cyngor Cynghori Undebau Llafur, Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid a Thasglu Aberdeen) 

Dadansoddiad ac asesiad o’r farchnad 

Bydd ynni lleol glân a fforddiadwy yn pweru'r DU wrth i ni symud oddi wrth ddibyniaeth ar farchnadoedd tanwydd ffosil anwadal. Bydd yn rhaid moderneiddio system ynni'r DU er mwyn dod yn uwch-bŵer ynni glân. Mae ein dadansoddiad yn ystyried yr esblygiad hwn, wedi'i ategu gan uchelgeisiau Pŵer Glân 2030 llywodraeth y DU2, ac wedi'i fframio yn y tymor hwy gan ddadansoddiad o senarios a ddaw o lwybrau’r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (NESO) hyd at 20503.

Heddiw mae trydan yn cyfrif am oddeutu 20% o’r galw am ynni yn y wlad, ond erbyn 2050 dyma fydd y brif ffynhonnell ynni sy’n pweru ein gwlad. Bydd trydaneiddio'n torri ar draws pob rhan o'r economi, gan leihau allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd y system. Bydd trydan glân yn pweru ein trafnidiaeth, yn gwresogi ein cartrefi, yn gyrru ein diwydiant ac yn cefnogi'r broses o ehangu canolfannau data newydd, gan sicrhau tua 60% o ostyngiad yn allyriadau'r DU erbyn 20504

Bydd GBE ar flaen y gad o ran y trawsnewid hwn, gan sbarduno'r buddsoddiadau a'r gweithgarwch sydd eu hangen i ddiwallu'r galw am drydan a fydd wedi dyblu, a sicrhau manteision economaidd i'r cyhoedd ym Mhrydain ar yr un pryd. Byddwn yn cysoni ein camau gweithredu â Strategaeth Ddiwydiannol y DU5 a Chynllun y Sector Diwydiannau Ynni Glân6, gan ddod â gweithgynhyrchu yn ôl i'n trefi a'n dinasoedd i adeiladu diwydiannau'r dyfodol.

Bydd adeiladu system drydan sy'n seiliedig ar gapasiti storio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy domestig yn gwneud system ynni gyfan y DU yn fwy diogel a chadarn. Mae’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn adrodd bod y DU ar hyn o bryd yn dibynnu ar fewnforio tanwydd ffosil ar gyfer tua 20% o'r ynni sy'n gysylltiedig â chynhyrchu trydan7. Heb ein hynni adnewyddadwy domestig ein hunain, byddai'r ffigur hwn yn nes at 60%. Mae’r ddibyniaeth hon ar danwydd ffosil yn cael effaith uniongyrchol ar economi’r DU. Ers 1970 mae dros hanner dirwasgiadau'r DU wedi cael eu hachosi gan siociau pris tanwydd ffosil4. Bydd trawsnewid i ynni adnewyddadwy yn cynyddu sofraniaeth ar yr un pryd â mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. 

Bydd cyflenwi'r galw cynyddol hwn am drydan yn golygu y bydd angen cynnydd sylweddol yn y trydan a gynhyrchir. Mae dadansoddiad o senarios NESO yn dangos y gallai fod angen tua 83-175 TWh yn fwy o drydan ar Brydain erbyn 2035 nag oedd ei angen arnom yn 20248, yn dibynnu ar ba mor gyflym mae datgarboneiddio yn digwydd. Mae hyn yn cyfateb i’r galw am drydan gan fwy na 30 miliwn o gartrefi yn y DU9. Erbyn 2050, gallai’r galw fod mor uchel ag oddeutu 800 TWh. 

Wrth i’r galw am drydan gynyddu, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y cyflenwad yn cadw i fyny. Mae NESO yn amcangyfrif y gallai fod diffyg o 20-35 GW mewn capasiti cynhyrchu trydan erbyn 2035 o'i gymharu â'u llwybrau Senarios Ynni'r Dyfodol (FES) sy'n nodi ystod o lwybrau i gyrraedd ein targedau sero net 20503,8. 

Ffigur 1: Cyfanswm y galw am ynni a thrydan yn y DU dros amser, i'r 5 TWh agosaf8 .

Ffigur 1: Cyfanswm y galw am ynni a thrydan yn y DU dros amser, i'r 5 TWh agosaf8 .

Mae perygl i’r technolegau allweddol dangyflawni. Yn llwybrau Senarios Ynni’r Dyfodol NESO3.8

  • Mae angen cynyddu capasiti ynni gwynt ar y môr hyd at bum gwaith erbyn 2035, o 16 GW10 i 68 - 86 GW. Disgwylir i brosiectau ynni gwynt dŵr dwfn gyfrannu at hyn; serch hynny, dim ond 80 MW11 sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU ar hyn o bryd. Gall GBE helpu i ddatgloi potensial y DU ac adeiladu ar lwyddiant ynni gwynt ar y môr gwaelod sefydlog.
  • Mae angen cynyddu capasiti ynni gwynt ar y tir a solar yn sylweddol hefyd. Mae 16 GW o ynni gwynt ar y tir yn cael ei ddefnyddio yn y DU10 ar hyn o bryd, a rhagwelir y bydd angen 36 – 39 GW erbyn 2035. Mae’r bwlch ar gyfer solar yn fwy byth. Mae angen codi cyfanswm ei gapasiti o 20 GW12 i 56 – 62 GW erbyn 2035. Gall GBE gefnogi hyn drwy ddatgloi tir cyhoeddus, yn ogystal â mentrau tir preifat, ac ail-bweru safleoedd gwynt ar y tir presennol.
  • Disgwylir i'r galw am storio ynni, gan gynnwys systemau storio ynni batri (BESS) a storio trydan am gyfnod hir (LDES) fwy na threblu, gyda 25 - 33 GW o BESS a 7 - 10 GW o gapasiti LDES ei angen erbyn 2035. Mae hyn yn cymharu â chapasiti presennol o 7 a 3 GW yn unig yn y drefn honno13. Gall GBE helpu i gyflymu'r broses ar draws BESS, Storfeydd Ynni Hydro wedi'i Bwmpio (PHES) a thechnolegau LDES cychwynnol. 

Ffocws allweddol GBE, ar lefel strategol, yw gweithio gyda'r sector preifat i ddadrisgio’r llif o brosiectau sy’n bodoli’n barod a dechrau prosiectau newydd sy'n llenwi'r bwlch at rannau uchaf uchelgeisiau'r DU ar gyfer ynni glân. 

Ffigur 2: Y lefel bresennol, trywydd14 2035 ac ystod llwybrau8 NESO ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy mewn technolegau blaenoriaeth GBE. 

Bydd GBE yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r llif presennol o brosiectau ac yn ysgogi datblygiadau newydd i gau'r bwlch rhwng y trywydd presennol ar gyfer defnydd a galw 2035 a 2050 o dan lwybrau Senarios Ynni’r Dyfodol NESO. 

Ein gweledigaeth a’n cenhadaeth 

Ein Gweledigaeth

Great British Energy: Yn Lân a Chadarn i Chi.

Ein Cenhadaeth

Perchnogaeth Gyhoeddus o Ynni gyda Phwrpas: cyflymu ynni glân a'r diwydiannau sy'n ei gefnogi, gan sicrhau bod gweithwyr a chymunedau'n elwa ar ynni glân, diogel a lleol.

Ein gweledigaeth a’n cenhadaeth 

Mae gan Great British Energy weledigaeth: dod yn sefydliad parhaus sy'n sicrhau manteision system ynni lanach a mwy diogel i'r cyhoedd yn y DU. Ynni sy'n cael ei bweru gan bwrpas, sy'n eiddo i'r bobl, ac sydd wedi ymrwymo i ddatgloi potensial y DU mewn byd wedi'i drydaneiddio. Great British Energy: Yn Lân a Chadarn i Chi.

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, bydd ein gweithgareddau a'n penderfyniadau yn gysylltiedig â chyflawni ein cenhadaeth:

Perchnogaeth Gyhoeddus o Ynni gyda Phwrpas: cyflymu ynni glân a'r diwydiannau sy'n ei gefnogi, gan sicrhau bod cymunedau a gweithwyr y DU yn elwa ar ynni glân, diogel a lleol.

Mae perchnogaeth gyhoeddus gyda phwrpas yn golygu cyflawni canlyniadau drwy ddefnyddio'r rhinweddau a'r cymhellion sydd gan GBE, ac nad ydynt yn cael eu rhannu gan gwmnïau a sefydliadau eraill. Bydd y rhinweddau hyn yn ategu ac yn gwella gweithgarwch yn y sector gan roi hwb i ddefnydd a moderneiddio ein system ynni. Byddwn yn cyd-fynd â'r amcanion strategol a nodir yn y Strategaeth Ddiwydiannol5, Cynllun y Sector Diwydiannau Ynni Glân, a’r Cynllun Swyddi Ynni Glân15 yn ogystal â strategaethau a chyhoeddiadau'r llywodraeth yn y dyfodol megis Cynllun Ynni Gofodol Strategol NESO16

Yr hyn sy'n ein gwneud ni’n wahanol

Bydd llwyddiant GBE yn cael ei fesur yn ôl mwy nag enillion

Budd ehangach i'r cyhoedd drwy system ynni well a mwy fforddiadwy, a swyddi da. Byddwn yn ysgogi buddsoddiadau gan ddatblygwyr eraill, a sefydliadau cyllid – cyhoeddus a phreifat, domestig a rhyngwladol – yn ogystal â chyllid lleol a chymunedol, i ddod â'r cyfleoedd hyn i'r DU. 

Bydd gan GBE barodrwydd gwahanol i dderbyn risg, gan geisio sicrhau buddion ehangach

Bydd GBE yn buddsoddi'n gyfrifol, gan geisio sicrhau enillion ar yr un pryd â chroesawu risgiau cytbwys sy'n gysylltiedig â'r farchnad, y model busnes a/neu ddechreuadau technolegol. Byddwn yn gwerthuso'r enillion yn yr ystyr ehangaf, gan ystyried y lles cymdeithasol ac effaith bellgyrhaeddol ein buddsoddiadau dros y tymor hir.

Byddwn yn cydlynu rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus

Gyda strategaeth fuddsoddi fwy amyneddgar a fydd yn datgloi cyfyngiadau hollbwysig yn y gadwyn gyflenwi ac yn galluogi'r wlad i elwa ar y cyfle economaidd sy'n gysylltiedig â'r trawsnewid i ynni adnewyddadwy.

Bydd GBE yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau ynni cymunedol ac awdurdodau lleol

Bydd yn cynnig pecyn cymorth o gyngor, arweiniad, templedi ac arbenigedd diwydiannol i ddatgloi mwy o gyfrannau cymunedol mewn ynni glân. Bydd GBE hefyd yn cynnig cyfleoedd er budd cymunedol a rhanberchnogaeth drwy ei bortffolio o brosiectau, a bydd yn dangos yr arferion gorau. 

Byddwn yn ail-fuddsoddi enillion i gefnogi lles y cyhoedd

Fel cwmni sy'n eiddo cyhoeddus, byddwn yn ail-fuddsoddi enillion er mwyn cynyddu’r effaith rydym yn ei chael, a'r pethau da rydym yn eu cyflawni. Bydd cadw ac ail-fuddsoddi elw yn y tymor hir yn dwysáu’r cynnydd ac yn cyflymu'r broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy. 

Ein nodau a chanlyniadau 

Bydd llwyddiant i GBE yn golygu defnyddio ein rhinweddau unigryw a'u troi'n gynllun y gellir ei roi ar waith i sicrhau canlyniadau. Gan adlewyrchu’r amcanion strategol a nodir yn y Datganiad o Flaenoriaethau Strategol, mae gennym bedair nod allweddol i’w cyflawni dros y 5 mlynedd nesaf: 

Nodau 

Cyflymu'r defnydd cyffredinol o ynni glân

  • Sefydlu portffolio a fydd yn darparu o leiaf 15 GW drwy fuddsoddiad a pherchnogaeth mewn asedau storio a chynhyrchu ynni glân.
  • Defnyddio £15bn o gyllid preifat dros amser o gronfeydd GBE sydd wedi'u hymrwymo rhwng nawr a 2030.

Cynyddu perchnogaeth leol a chymunedol o ynni glân

  • Cynnal mwy na 1,000 o brosiectau ynni lleol a chymunedol, gan roi hwb i berchnogaeth gymunedol. 

Cefnogi swyddi a thwf gweithgynhyrchu a thechnoleg ynni glân ym Mhrydain

  • Ysgogi trawsnewid cyfiawn, gan gyllido prosiectau i gynnal o leiaf 10,000 o swyddi yn uniongyrchol, gan gynnwys sgiliau a lleoliadau sydd, yn hanesyddol, yn dibynnu ar olew a nwy. 

Buddsoddi ar delerau masnachol, gan adlewyrchu enillion â risg wedi'i phwysoli sy'n berthnasol i'r sectorau rydym yn eu targedu

  • Adeiladu portffolio sy'n cynhyrchu incwm erbyn 2030 ac ar lwybr at broffidioldeb ar draws y cwmni. 

Canlyniadau 

Canlyniadau Nod 1:

  • Hybu perchnogaeth gyhoeddus gyda phwrpas, gan roi cyfran barhaol i bobl yn nyfodol ynni glân y DU.
  • Darparu system lanach a mwy diogel sy'n cefnogi twf economaidd.
  • Ehangu mynediad at drydaneiddio bywyd bob dydd, gan helpu aelwydydd a busnesau i symud i bŵer glân.

Canlyniadau Nod 2:

  • Galluogi cymunedau i elwa'n uniongyrchol o berchnogaeth uniongyrchol ar asedau a phrosiectau rhanberchnogaeth.
  • Costau ynni is ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus allweddol fel ysbytai ac ysgolion, gan ryddhau adnoddau ar gyfer darparu ar y rheng flaen.
  • Ehangu mynediad at ynni adnewyddadwy cost isel a systemau ynni lleol clyfar sy'n gwneud rhanbarthau'n fwy hunangynhaliol a gwydn.

Canlyniadau Nod 3:

  • Creu a chynnal swyddi a phrentisiaethau o safon uchel, gyda chynrychiolaeth gref gan undebau, mewn ardaloedd o'r wlad sydd eu hangen fwyaf.
  • Creu cyfleoedd i weithwyr symud i'r economi werdd, gan helpu i greu'r gweithlu medrus sydd ei angen i drawsnewid i ynni adnewyddadwy ym Mhrydain.
  • Ysgogi marchnadoedd a thechnolegau newydd lle gall y DU gystadlu ac arwain yn fyd-eang wrth gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol y DU.

Canlyniadau Nod 4:

  • Sicrhau y bydd y buddion a ddychwelir i'r cyhoedd yn tyfu dros amser drwy ail-fuddsoddi mewn rhagor o gapasiti ynni glân.
  • Sicrhau annibyniaeth ariannol GBE ar yr un pryd â chryfhau gwerth asedau ynni sy'n eiddo cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae effeithiau mesuradwy yn arwain at ganlyniadau yn y byd go iawn. Bydd GBE yn cyhoeddi Fframwaith Effaith a Pherfformiad sy’n amlinellu sut bydd yr effeithiau'n cael eu hystyried a'u gwerthuso gan y sefydliad. 

Effaith GBE ar gostau ynni 

Ymdrech genedlaethol yw lleihau costau ynni. Bydd llywodraeth y DU yn chwarae rhan hanfodol, gyda gweithgarwch GBE wedi'i ddylunio i ategu'r camau hynny. Bydd GBE yn sicrhau effaith uniongyrchol drwy ein gweithgareddau lleol a chymunedol ac, yn y tymor hwy, drwy sbarduno gostyngiad yng nghostau technolegau newydd a buddsoddi mewn prosiectau a fydd yn gwneud ein system ynni'n fwy effeithlon. 

Mae GBE yn cefnogi’r gwaith o osod ynni adnewyddadwy mewn ysgolion, ysbytai ac adeiladau cyhoeddus, gan gysylltu ynni cost isel â chymunedau. Mae gan bartneriaeth bresennol GBE gyda'r Adran Addysg a'r GIG botensial i sicrhau arbedion oes o gannoedd o filiynau o bunnoedd oddi ar filiau ynni, gan arbed degau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn i ysgol neu ysbyty nodweddiadol17

Pan fydd ynni cymunedol yn cael ei ddefnyddio, bydd grwpiau'n gallu ailddosbarthu enillion o'r asedau hyn yn ôl i'r cymunedau sy'n cymryd rhan. Pan fyddwn yn gwneud hyn yn iawn, gall buddsoddi mewn ynni arwain at ganlyniadau gwell o ran y pethau sy'n wirioneddol bwysig i bobl – iechyd, addysg a llesiant.

Gan edrych ar y tymor hir ar draws sectorau, bydd GBE yn lleoli ei asedau storio a chynhyrchu mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'r system. Bydd buddsoddi mewn hyblygrwydd yn sicrhau mwy o werth o'n hasedau presennol ac yn lleihau'r pwysau ar atgyfnerthu'r rhwydwaith. Bydd hyn o fudd i’r system, diwydiannau a thalwyr biliau.

Byddwn hefyd yn ysgogi gostyngiadau mewn costau hirdymor ynni ar y môr, gydag enillion tymor agosach i’r cyhoedd ym Mhrydain drwy swyddi o ansawdd da mewn cadwyni cyflenwi drwy ein cronfa Energy, Engineered in the UK sy’n werth £1 biliwn. 

Ein gweithgarwch 

Bydd cyfalafu cychwynnol GBE yn cael ei ddefnyddio ar draws gwahanol weithgareddau busnes i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ynni glân. Rydym yn rhagweld y bydd gennym rolau gwahanol mewn gwahanol sectorau, i ddechrau gydag ecwiti lleiafrifol mewn technolegau cychwynnol a mwy o gyfrannau mwyafrifol mewn technolegau aeddfed. 

  • Datblygwr Ynni: Yn gyntaf oll, mae GBE wedi cael ei sefydlu fel datblygwr prosiectau ynni glân. Byddwn yn arwain y gwaith o ddatblygu asedau ynni glân o'r cychwyn cyntaf, gan fod yn berchen ar yr asedau hyn a'u gweithredu ar ran y trethdalwr. Gall perchnogaeth fwyafrifol ar dechnolegau sefydledig arwain at enillion sefydlog a chau bylchau o ran defnydd. Byddwn yn datblygu gyda phartneriaid ac yn dod â buddion i gymunedau lleol.
  • Buddsoddwr Strategol: Bydd ein buddsoddiadau'n ategu ein gweithgareddau datblygu. Byddwn yn targedu prosiectau lle gall GBE ddadrisgio a denu cyfalaf ehangach. Byddwn yn fuddsoddwr gweithredol, ac yn dysgu o bob menter i feithrin arbenigedd a chefnogi ein cangen ddatblygu. Ni fydd pob un o’n gweithgareddau'n rhai masnachol: bydd grantiau a benthyciadau'n cael eu defnyddio'n strategol lle byddant yn ein helpu i gyflawni ein nodau.
  • Cydlynu’r Farchnad: Bydd ein gweithgarwch ariannol yn cael ei gefnogi gan fentrau sy'n hyrwyddo'r gwaith o gyflawni ein cenhadaeth drwy alluogi defnydd ehangach. Bydd hynny'n cynnwys cymorth â galluogrwydd i grwpiau ynni lleol a chymunedol, a mentrau siapio'r farchnad sy'n helpu i gydlynu polisi'r llywodraeth â buddsoddiadau cyhoeddus a phreifat. 

Bydd y rolau hyn yn cael eu cyflawni o fewn meysydd blaenoriaeth craidd GBE: 

  • GBE Local: Y grym trawsnewidiol sy'n gwneud ynni lleol a pherchnogaeth gymunedol yn gyffredin, gan sicrhau bod cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yn elwa'n uniongyrchol ar y seilwaith maent yn ei gynnal mewn asedau hyblygrwydd a chynhyrchu a gynhelir, ar draws ein llif o brosiectau yn ei gyfanrwydd.
  • Ynni ar y Tir: Datgloi potensial ynni tir cyhoeddus a buddsoddi'n strategol i gyflawni anghenion y DU o ran hyblygrwydd a sefydlogrwydd y grid.
  • Ynni ar y Môr: Rhoi hwb i swyddi a thwf yn yr Alban a'r Môr Celtaidd drwy ddatgloi'r tir newydd i’w dorri ym maes ynni gwynt ar y môr: dyfroedd dyfnach.
  • Cadwyn Gyflenwi – Energy, Engineered in the UK: Rhoi rhaglen cadwyn gyflenwi gynhwysfawr a chyflenwol yn sail i'n prosesau cyflwyno ynni glân er mwyn datgloi cyfleoedd diwydiannol o'r camau trawsnewid i ynni adnewyddadwy a sicrhau bod y DU yn datblygu galluoedd parhaol mewn technolegau ynni glân. 

Ein methodoleg 

Mae defnyddio ein cyfalaf i gynyddu'r effaith rydym yn ei chael yn golygu canolbwyntio ar y sectorau lle gall perchnogaeth gyhoeddus gyda phwrpas gael yr effaith fwyaf. Drwy ganolbwyntio ein hymdrechion, gallwn feithrin arbenigedd a chymwyseddau craidd yn gyflym a defnyddio'r rhain i fod yn bartner cyflawni mwy effeithiol ac yn hyrwyddwr ynni glân.

Er ein bod yn annibynnol yn weithredol, byddwn yn gweithredu yn unol â’r mandad a nodir yn y Datganiad o Flaenoriaethau Strategol. Byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau cynhyrchu trydan, yn eu datblygu, yn berchen arnynt ac yn eu rhedeg; byddwn yn gwneud hyn ochr yn ochr â'n gweithgarwch mewn cadwyni cyflenwi ynni glân. Nid oes gennym gynlluniau yn y cam hwn i fod yn fanwerthwr trydan sy'n gwerthu pŵer i ddefnyddwyr domestig yn uniongyrchol, ac nid ydym ychwaith yn rhagweld y bydd GBE yn datblygu nac yn buddsoddi'n uniongyrchol mewn prosiectau seilwaith grid neu rwydwaith ar raddfa fawr.

Mae ein rhestr fer o feysydd technoleg â blaenoriaeth wedi’i nodi drwy gyfuniad o ymdrechion ymgysylltu â'r farchnad a modelu portffolio. Rydym wedi ystyried pa dechnolegau sy'n cydbwyso nodau'r cwmni orau ac sy’n cynnig cyfleoedd i GBE ddefnyddio ei rôl unigryw.

Byddwn yn gwerthuso prosiectau a mentrau fesul achos yn ogystal â pharhau i fonitro tueddiadau'r farchnad. Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion i ddechrau ar y meysydd technoleg â blaenoriaeth a restrir yn y cynllun hwn. Efallai y byddwn yn addasu’r meysydd hynny os oes cyfleoedd i gyflawni ein huchelgeisiau'n well wrth i’r marchnadoedd esblygu. 

Dull Dadansoddol

Ein proses lefel uchel ar gyfer nodi meysydd blaenoriaeth:

Nodi technolegau sy'n cyd-fynd â mandad GBE

Asesu meini prawf i bennu pa mor dda mae technolegau'n cyd-fynd ag amcanion strategol GBE

  • Y graddau mae angen y dechnoleg ar gyfer sero net
  • Aeddfedrwydd y dechnoleg
  • Llif technoleg a’i sicrwydd
  • Y gallu i GBE fewnwthio gydag eraill
  • Cyfle i gymunedau elwa
  • Cyfle i gefnogi swyddi / twf economaidd

Modelu portffolio i asesu effaith a chyfaddawdau, gan lywio dewisiadau technoleg a strategaeth fuddsoddi

  • Pennu pwynt mynediad GBE a’i rôl unigryw
  • Llunio portffolios nodweddiadol
  • Asesu allbynnau masnachol a chymdeithasol 

Blaenoriaeth 1 – GBE Local

Trawsnewid perchnogaeth ynni lleol a chymunedol

GBE Local - Cyd-destun

Bydd GBE Local yn galluogi cyflwyno oes newydd o brosiectau ynni cymunedol a lleol ledled y DU yn y tymor agos, gan ddatblygu modelau tymor hwy y gellir eu hehangu i ddatgloi gwerth ynni lleol. 

Cyd-destun: 

Mae datblygu generaduron trydan llai, mwy modiwlaidd fel solar ffotofoltaidd a gwynt wedi creu cyfleoedd newydd ar gyfer perchnogaeth lai canolog a mwy democrataidd. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy'n eiddo i grwpiau cymunedol, cwmnïau cydweithredol, llywodraeth leol a sefydliadau masnachol.

Yn eu hanfod, mae prosiectau ynni cymunedol yn cynnwys grwpiau o bobl sy’n dod at ei gilydd i brynu, rheoli, cynhyrchu neu leihau'r defnydd o ynni mewn ardal benodol, fel tref, dinas neu ranbarth. Fel arfer, mae'n cynnwys ymdrechion cynhyrchu lleol (fel paneli solar, tyrbinau gwynt, neu hydro ar raddfa fach), galw lleol (cartrefi, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus), ac weithiau storio a thechnolegau clyfar i gydbwyso'r cyflenwad a'r galw.

Ni fydd llwybr y DU at system ynni fforddiadwy, gwydn a sero net yn cael ei gyflawni drwy strategaethau canolog yn unig. Mae cymunedau wrth galon cenhadaeth Llywodraeth y DU i wneud y DU yn uwch-bŵer ynni glân ac mae angen iddynt allu elwa ar y seilwaith yn eu hardaloedd lleol. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen meithrin hyder ymysg buddsoddwyr a chymunedau yn y tymor hir. 

Cip ar yYstadegau lleol GBE:

Cip ar yYstadegau lleol GBE

Heriau:

Mae nifer o rwystrau sy'n cael eu deall yn dda yn atal prosiectau ynni lleol a chymunedol rhag tyfu. Gall GBE chwarae rhan ganolog yn y gwaith o fynd i'r afael â hyn. Mae graddfa lai prosiectau ynni lleol a'u heterogenedd o ran y dechnoleg a ddefnyddir, ffurfweddiad y safle, lleoliad a strwythur masnachol yn cyflwyno nifer o heriau cydgysylltiedig: 

  • Mynediad at allu datblygu: Nid yw rhai o’r grwpiau yn meddu ar yr' arbenigedd technegol, cyfreithiol a masnachol sydd ei angen i symud prosiectau yn eu blaen o'r cysyniad i'r cam gweithredu; mae hynny’n cyfyngu ar gyflymder a graddfa gwaith datblygu’r prosiectau.
  • Diffyg llwybr i’r farchnad, gan gynnwys hyblygrwydd systemau: Mae prosiectau ynni cymunedol a lleol yn wynebu anawsterau o ran sicrhau trefniadau prynu ymlaen llaw dibynadwy, gan wynebu heriau â chytundebau prynu pŵer, mynediad at y grid, a chymryd rhan mewn marchnadoedd hyblygrwydd neu gapasiti. Mae hyn yn tanseilio hyfywedd y prosiect.
  • Mynediad at gyllid: O ganlyniad, mae grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol yn aml yn ei chael hi'n anodd codi arian datblygu ac adeiladu cam cynnar, oherwydd ystyrir bod y prosiectau'n rhai risg uwch ac nid oes ganddynt sicrwydd cyfochrog. 

GBE Local - Sut byddwn ni'n gwahaniaethu?

Drwy oresgyn y rhwystrau sy'n wynebu prosiectau ynni lleol a chymunedol, bydd GBE yn cyflymu'r defnydd, yn ysgogi mwy o weithgareddau cynhyrchu ynni glân, ac yn cyfrannu at ein nod o gynyddu perchnogaeth ynni lleol a chymunedol. 

Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru eisoes wedi gosod uchelgeisiau i gael 2 GW20 ac 1.5 GW21 o ynni sy’n eiddo i’r gymuned yn y drefn honno. Bydd GBE Local yn adeiladu ar barodrwydd y sector, gan weithio ar y cyd â llywodraethau datganoledig i fwrw ymlaen â mentrau ynni glân yn y pedair gwlad. 

Mae gwireddu gwerth llawn technolegau ynni gwasgaredig yn golygu datgloi potensial llawn cynhyrchu ar y safle a'r tu-ôl-i'r-mesurydd a sicrhau’r buddion cymunedol a lleol mwyaf posibl. Gan weithio ar draws y sector cyhoeddus a chymunedau, bydd GBE yn datblygu amrywiaeth o ymyriadau a chynnyrch sy'n mynd i'r afael â'r heriau unigryw sy'n wynebu ynni lleol a chymunedol yn y lleoliadau hyn, a bydd yn gweithio i ganfod yr atebion cyffredin y gellir eu defnyddio fel llwyfan ar gyfer cynyddu'r ddarpariaeth.

Ochr yn ochr â’r camau gweithredu uniongyrchol i gynyddu prosiectau ynni lleol, bydd GBE hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i ddatblygu a chyflawni'r Cynllun Pŵer Lleol. Bydd y Cynllun Pŵer Lleol yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r materion systemig sy'n wynebu'r sector, megis yr heriau gydag ynni lleol a chymunedol yn gwireddu'r gwerth mae'n ei ddarparu yn ogystal â mynd i'r afael ag anghenion uniongyrchol i ddatblygu'r llif o brosiectau ynni cymunedol a lleol. 

GBE Local yn cyfrannu at filiau is

Gall asedau adnewyddadwy fel paneli solar ar y to neu wynt ar raddfa fach arwain at ostyngiad ar unwaith mewn biliau cymunedol. Gwneir hyn drwy wrthbwyso'r defnydd o drydan grid yn uniongyrchol neu drwy ddosbarthu manteision cymunedol, fel cronfeydd, o'r prosiectau hyn. Pan fydd GBE yn helpu i leoli neu gyllido prosiectau cynhyrchu gwasgaredig lleol ar y to yn nes at y pwynt defnyddio, gall hyn leihau'r angen i atgyfnerthu'r rhwydwaith. Byddai agor marchnadoedd hyblygrwydd i asedau ymateb yn well i signalau pris lleol yn gallu datgloi gwerth ac arwain at ostyngiad cyffredinol yng nghost y system. 

Astudiaeth achos: Cynllun solar GBE

Mae ysbytai ac ysgolion ledled y wlad yn lleihau eu biliau ynni diolch i fuddsoddiad gwerth £255 miliwn gan Great British Energy a Llywodraeth y DU22.

Bydd y cynllun yn cefnogi oddeutu 250 o ysgolion, dros 270 o safleoedd y GIG, a thua 15 o safleoedd milwrol ledled y wlad.

Diolch i Great British Energy, gallai miliynau o bunnoedd nawr gael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen mewn ardaloedd difreintiedig. Wrth i'r cynllun barhau i gael ei gyflwyno, bydd y cynllun yn gweld arbedion oes o gannoedd o filiynau o bunnoedd i ysgolion a’r GIG. 

Astudiaeth achos: Cronfa Gymunedol GBE

Cronfa Gymunedol Great British Energy yw ein rhaglen grantiau gyntaf ar gyfer prosiectau ynni cymunedol. Ei nod yw: 

  • Cefnogi cymunedau: Drwy eu helpu i fanteisio i'r eithaf ar botensial cynhyrchu incwm ynni adnewyddadwy a rhoi hyn ar waith yn eu hardaloedd.
  • Cynhyrchu mwy o ynni: Gwneud cynnydd yn erbyn targed Llywodraeth y DU i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu a hyrwyddo cynlluniau adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned.
  • Hybu twf a chreu swyddi: Galluogi cymunedau i gael mynediad at y buddion economaidd sy'n gysylltiedig â chynlluniau ynni adnewyddadwy. 

GBE Local – Ein rôl yn y Cynllun Pŵer Lleol

Bydd GBE yn cyhoeddi Cynllun Pŵer Lleol ar y cyd â'r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net yn 2026 a fydd yn amlinellu ein gweledigaeth hirdymor gyffredin ar gyfer ynni lleol a chymunedol.

Beth yw’r Cynllun Pŵer Lleol

Bydd y Cynllun Pŵer Lleol yn nodi uchelgais cyffredin GBE a Llywodraeth y DU ar gyfer twf ynni lleol, gan gynnwys drwy gynyddu ymdrechion cynhyrchu ynni adnewyddadwy llywodraeth leol a'r sector ynni cymunedol. Gan gydnabod y gwerth y mae mwy o berchnogaeth yn y gymuned a’r sector cyhoeddus yn ei ddarparu, bydd y Cynllun Pŵer Lleol yn sicrhau bod pobl yn teimlo'r manteision o seilwaith yn eu hardal leol. Mae’r Cynllun Pŵer Lleol hefyd yn bwysig i uchelgeisiau Pŵer Glân 2030 Llywodraeth y DU2.

Bydd y Cynllun Pŵer Lleol yn adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd gan GBE yn 2025/26, gan gynnwys cyllid ar gyfer paneli solar ar ysgolion ac ysbytai yn ogystal â chymorth i ddefnyddio ynni adnewyddadwy mewn Awdurdodau Strategol â Meiri a grwpiau ynni cymunedol. Ei fwriad yw egluro rolau a chyfrifoldebau GBE, Llywodraeth y DU, a phartneriaid allweddol eraill. Y nod yw darparu ynni glanach, mwy fforddiadwy a mwy gwydn ar lefel gymunedol. 

Bydd y Cynllun Pŵer Lleol yn ceisio mynd i'r afael â'r prif rwystrau sy'n atal datblygu ynni cymunedol a lleol, gan gyfuno rôl Llywodraeth y DU i ddatgloi rhwystrau polisi a rheoleiddio â rôl GBE o ran cefnogi llywodraeth leol, cymunedau a'r sector cyhoeddus i fynd i'r afael â gallu a chapasiti, a rhwystrau sy’n ymwneud â chyllid ac arian. Bydd hyn i gyd yn arwain at gyflawni ein nod o gynyddu cyfranogiad y cyhoedd a chael budd o'r trawsnewid i ynni adnewyddadwy.

Bydd y Cynllun Pŵer Lleol yn gwireddu manteision ynni lleol a chymunedol 

Mae cynyddu ymgysylltiad cymunedau â'r broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy yn sicrhau manteision cymdeithasol. Mae’r rhain yn arwain at feithrin ymddiriedaeth yn ogystal ag ymdeimlad o dderbyn mewn cymdeithas23. Gall hyn, yn ei dro, arwain at fwy o gefnogaeth yn y gymuned ar gyfer prosiectau ynni glân na phrosiectau masnachol24, 25, sy’n lleihau’r gwrthwynebiad a all ohirio'r prosesau trawsnewid. Adroddodd Adnodd Olrhain Agweddau Cyhoeddus yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ) y byddai mwy na 8 o bob 10 o bobl yn fwy tebygol o gefnogi fferm wynt neu solar yn eu hardal leol pe bai’n cynnig budd cymunedol19

Ar ben hynny, mae perchnogaeth gymunedol o ynni adnewyddadwy yn darparu cyfalaf ychwanegol i'r farchnad26, 27, drwy Gynigion Cyfranddaliadau Cymunedol, ac mae hynny’n lleihau gwariant cyfalaf (CAPEX) y datblygwr. Mae'n rhoi perchnogaeth yn nwylo pobl Prydain, gan ddemocrateiddio perchnogaeth a chynyddu perchnogaeth Prydain o asedau cyhoeddus28

Gall cynhyrchu ynni lleol gwasgaredig wneud system ynni'r DU yn fwy gwydn, gan leihau cost cwtogi a lleihau'r tebygolrwydd y bydd prinder ynni29.

Mae rhoi cyfran uniongyrchol i gymunedau a phobl leol mewn seilwaith ynni glân yn allweddol i ddatgloi cyfleoedd llawn y broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy. 

Rôl GBE yn y gwaith o gyflwyno’r Cynllun Pŵer Lleol:

  • Grantiau, benthyciadau a chyllid cyfun: Bydd GBE yn cefnogi cynnydd mewn perchnogaeth gymunedol a buddion cymunedol drwy grantiau cychwynnol, benthyciadau consesiynol, modelau rhanberchnogaeth a chyllid cyfun. Fel partner i lywodraeth y DU yn y Cynllun Pŵer Lleol, bydd gan GBE rôl yn galluogi cymunedau i fod yn berchen ar eu hasedau ynni eu hunain a'u gweithredu.
  • Meithrin gallu: Yn ogystal â chyllid, bydd GBE yn meithrin gallu yn fewnol yn ogystal â thrwy rwydwaith o sefydliadau partner, gan ddefnyddio ei arbenigedd i gefnogi sefydliadau ynni cymunedol i ddatblygu prosiectau ledled y DU.
  • Polisi: Cefnogi llunwyr polisïau i ddylunio polisïau effeithiol i hwyluso'r defnydd o ynni lleol a gwireddu ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer ynni cymunedol a lleol.

GBE Local - Ein dull buddsoddi

I ategu ein rôl yn y Cynllun Pŵer Lleol, bydd GBE yn datblygu llwyfan masnachol i ddatgloi potensial ynni lleol ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau. 

Ein gweledigaeth ar gyfer GBE Local:

  • Creu llwyfan mynediad agored sy'n ei gwneud hi'n haws datblygu a bod yn berchen ar ynni lleol.
  • Datgloi potensial cynyddol ynni lleol i chwarae rhan hollbwysig yn ein system ynni ac mewn cymunedau.
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd yn y broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy, gan sicrhau bod y manteision yno i bawb eu gweld. 

Llwyfan Ynni GBE Local:

Ein cynnig masnachol ar gyfer cynhyrchu ar y safle

Bydd ein llwyfan GBE Local yn darparu ateb busnes o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer cynhyrchu ar y safle. Bydd yn ffenestr siop sy’n agored i unrhyw grwpiau defnyddwyr sy'n awyddus i ddatblygu adnoddau cynhyrchu ynni ar raddfa fawr ar y safle.

Bydd yn cynnwys sefydliadau cymunedol a llywodraeth leol, ond byddai hefyd yn agored i adeiladau masnachol, tai cymdeithasol ac ymddiriedolaethau'r GIG. Bydd rôl unigryw GBE yn hyn o beth yn cynnwys y canlynol: 

  • Cydgasglu: Defnyddio grym gwario’r sector cyhoeddus a safoni technolegau lle bo modd i alluogi prosiectau llai i gael gafael ar gyflenwyr a manteisio ar arbedion maint.
  • Rhwydwaith partneriaid cyflenwi achrededig: Adeiladu rhwydwaith o bartneriaid cyflenwi dibynadwy a fydd yn rheoli'r gwaith, gan hwyluso'r broses o gyflawni prosiectau.
  • Atebion ariannol: Datblygu modelau busnes dichonol ar gyfer prosiectau a fydd yn galluogi GBE i gynnig model sy'n fasnachol hyfyw, yn wahaniaethol ac yn barhaus wrth i'r sector ddatblygu. Gallai hyn gynnwys ecwiti GBE, cymorth â Chytundebau Prynu Pŵer, neu orsafoedd pŵer rhithwir. 

Rhaglen Energy, Engineered in the UK

Mae angen gweithlu medrus i osod ynni glân. Wrth i ni fynd ati i sefydlu rhwydwaith partneriaid cyflenwi, bydd Llwyfan GBE Local yn cefnogi swyddi a chyfleoedd ledled y DU.

GBE Local: Ein dull hirdymor

Bydd GBE Local yn cyflawni fesul cam, gan ysgogi partneriaethau i sicrhau llwyddiant cynnar, ar yr un pryd â chynllunio'n strategol ar gyfer y tymor hwy.

Partneriaethau strategol

Bydd ein rhwydwaith partneriaid yn cael ei sefydlu i alluogi GBE i ddarparu ei gynnyrch a darparu mynediad at ystod ehangach o sgiliau ac arbenigedd nag y gallai ei ddatblygu'n fewnol. Bydd hefyd yn galluogi GBE i gael effaith economaidd leol drwy weithio gyda sefydliadau rhanbarthol a busnesau bach a chanolig. 

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Partneriaid Strategol: Gyda'n gilydd, byddwn yn goresgyn rhwystrau ac yn datblygu modelau cyflenwi newydd.
  • Partneriaid Cyflenwi: Y cwmnïau a’r sefydliadau y byddwn yn gweithio gyda nhw i gyflawni prosiectau ynni lleol.
  • Partneriaid y Cynllun Pŵer Lleol: Y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw i sicrhau llwyddiant y Cynllun Pŵer Lleol. 

Cam 1

  • Cydweithio a ffurfio partneriaethau. Ni all un sefydliad fynd i’r afael â’r broblem hon ar ei ben ei hun.
  • Cynnig cyllid datblygu i ysgogi llif ynni cymunedol a lleol.
  • Llunio nifer o gytundebau cychwynnol gyda'r Awdurdodau Cyfun Maerol (MCAau) ac awdurdodau lleol i dreialu prosiectau, gan sefydlu ein cynnig a dysgu beth sy'n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio.
  • Datblygu ein harbenigedd a'n gwybodaeth o ran sut i wneud prosiectau ynni cymunedol a lleol yn fasnachol hyfyw. 

Cam 2

  • Sefydlu llwybr i'r farchnad y gellir ei ailadrodd ar gyfer datgloi atebion ynni lleol clyfar ar hyd a lled y wlad.
  • Mae llwyfan ynni GBE Local yn gwbl weithredol ac yn cefnogi prosiectau ar draws y cylch datblygu.
  • Mae ynni gwasgaredig ar y trywydd iawn i fod yn gonglfaen y broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy. Gall y cyhoedd weld y manteision sy’n dod o’u hasedau.
  • Mae prosiectau sy'n cael eu harwain gan y gymuned ac sy’n cael eu cefnogi gan GBE yn galluogi cymunedau i elwa ar fanteision perchnogaeth ynni glân gydag asedau gweithredol newydd. 

Ynni Lleol – Crynodeb 

Pam GBE Local?

  • Mae cymunedau wrth galon y broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy ac mae dod yn uwch-bŵer ynni glân yn golygu rhoi’r gallu i bobl a busnesau lleol elwa’n uniongyrchol ar y seilwaith ynni glân.
  • Mae pob prosiect ynni lleol a chymunedol yn unigryw, ac mae gan GBE gyfle i fynd i'r afael â'r rhwystrau a all godi yn sgil hynny, gan ddarparu gallu a sicrhau llwybrau i'r farchnad i ddatgloi mynediad at gyfalaf.

Sut bydd GBE yn gwahaniaethu ac yn buddsoddi?

  • Bydd y Cynllun Pŵer Lleol yn nodi ein rôl o fewn gweledigaeth hirdymor ar gyfer y sector ynni lleol, gan ddarparu grantiau, benthyciadau a chyllid cyfun i alluogi cymunedau i fod yn berchen ar asedau ynni a'u gweithredu.
  • Byddwn yn creu llwyfan GBE Local, gan ddarparu cefnogaeth o'r dechrau i'r diwedd i grwpiau defnyddwyr er mwyn mynd ar drywydd systemau cynhyrchu ynni ar y safle: galluogi prosiectau llai i gael gafael ar gyflenwyr, adeiladu rhwydwaith o bartneriaid cyflenwi a darparu atebion ariannol i sicrhau hyfywedd masnachol. 

Partneriaethau

  • Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau ynni cymunedol, gan eu grymuso i fanteisio ar ynni gwasgaredig.
  • Bydd partneriaid cyflenwi yn ein galluogi i ddarparu ein cynnyrch a chynnig ystod ehangach o sgiliau, arbenigedd, a chymorth.

Canlyniadau

  • Galluogi cymunedau i elwa'n uniongyrchol ar y seilwaith yn eu hardaloedd drwy brosiectau rhanberchnogaeth a GBE Local.
  • Costau ynni is ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus allweddol fel ysbytai ac ysgolion, gan ryddhau adnoddau ar gyfer darparu ar y rheng flaen.
  • Ehangu mynediad at ynni adnewyddadwy cost isel a systemau ynni lleol clyfar sy'n gwneud rhanbarthau'n fwy hunangynhaliol a gwydn.
  • Ehangu mynediad at drydaneiddio bywyd bob dydd, gan helpu aelwydydd a busnesau i symud i bŵer glân. 

Blaenoriaeth 2 – Ynni ar y Tir 

Datgloi potensial ynni tir cyhoeddus. Sbarduno systemau ynni hyblyg y dyfodol.

Pam Ynni ar y Tir?

Bydd ynni adnewyddadwy ar y tir, gan gynnwys gwynt ar y tir, solar ffotofoltaidd, a systemau storio ynni mewn batris (BESS), yn gonglfaen systemau trydan y dyfodol. Mae’r rhain ymysg y ffynonellau pŵer rhataf erbyn hyn, a byddant yn cryfhau gwydnwch yn erbyn siociau pris tanwydd ffosil a gellir eu defnyddio'n agos at y galw, gan leihau'r angen am seilwaith rhwydwaith.

Felly, mae solar a gwynt ar y tir yn dechnolegau cynhyrchu ynni hanfodol i lwybrau cyflwyno sero net uchelgeisiol llywodraeth y DU. Mae llwybrau NESO yn gofyn am hyd at 62 GW o gapasiti solar a 39 GW o gapasiti gwynt ar y tir erbyn 20358, i fyny o 20 GW ac 16 GW yn y drefn honno heddiw10,12

Bydd GBE yn rhoi hwb i’r broses flwyno drwy ddatblygu prosiectau na fyddai'n digwydd fel arall; ochr yn ochr â hynny bydd yn sefydlu trefniadau cynhyrchu refeniw cadarn o brosiectau risg is ar y tir fel cydrannau allweddol o'n portffolio technoleg amrywiol. Bydd ein gweithgarwch yn effeithio'n sylweddol ar ddefnydd yn 2035 a’r tu hwnt, gyda buddsoddiad cynnar llwyddiannus yn cefnogi uchelgeisiau Pŵer Glân 2030 Llywodraeth y DU. 

Ffigur 4: Ystadegau ynni ar y tir (solar). Ystadegau ynni ar y tir (gwynt). 

 Ffigur 3 & 4: Ystadegau ynni ar y tir (solar). Ystadegau ynni ar y tir (gwynt).

Er bod pethau’n parhau i symud ymlaen yn gyflym, mae perygl na fydd modd gwireddu’r lefelau uchelgeisiol hyn. Mae GBE wedi bod yn gweithio gyda dadansoddwyr marchnad arbenigol i ddeall y rywyddau defnydd tebygol o ran technolegau ar y tir14. Mae'r dadansoddiad hwn yn awgrymu diffygion posibl o ran capasiti erbyn 2035, sef 11 - 15 GW o solar a 6 - 9 GW o ynni gwynt ar y tir, o’i gymharu â llwybrau sero net NESO.

Gyda hyd at 60% o'r capasiti gwynt ar y tir presennol yn cyrraedd diwedd ei oes erbyn 204030, bydd ail-bweru safleoedd presennol er mwyn manteisio i'r eithaf ar lif y prosiectau presennol hefyd yn hanfodol i gynnal y cynnydd o ran defnydd. 

Ynni ar y Tir - Sut byddwn ni'n gwahaniaethu

Mae GBE mewn sefyllfa unigryw i gychwyn a bod yn berchen ar genhedlaeth newydd o brosiectau ynni glân ar y tir ar raddfa cyfleustodau, gan ddatgloi tir cyhoeddus ac ailgylchu refeniw yn ôl i mewn i’r broses trawsnewid.

Y Cyfle

Mae cyfle unigryw i GBE ddod yn ddatblygwr ynni cyhoeddus y DU, gan gychwyn prosiectau newydd ar y tir i ategu’r broses cyflwyno. Mae gan asedau ar y tir, yn enwedig solar ffotofoltaidd a BESS rai o'r amserlenni datblygu byrraf o blith yr holl dechnolegau ar raddfa cyfleustodau. Mae hyn yn rhoi cyfle i ganlyniadau gael eu gwireddu’n gyflym.

Ar ben hynny, gellir defnyddio technolegau sefydledig i gydbwyso risg ar draws ein portffolio; bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau enillion cyson a rhagweladwy a fydd wedyn yn golygu ein bod yn gallu bod yn fwy ymosodol wrth fynd ar drywydd technolegau arloesol risg uwch.

Rydym yn cydnabod ei fod yn bwysig bod GBE yn canolbwyntio ymdrechion ar gyflawni prosiectau a chanlyniadau na fyddai wedi digwydd fel arall, ond byddwn hefyd yn ceisio manteisio ar gyfleoedd i fuddsoddi mewn asedau, a bod yn berchen arnynt, er mwyn sicrhau enillion sefydlog yn y tymor agos. 

Gall GBE ddatgloi cyfleoedd i gychwyn prosiectau, er enghraifft ar dir cyhoeddus, a byddwn yn ceisio datblygu asedau sydd â ffocws a chyfranogiad cymunedol cryf gan ddefnyddio ein profiad a'n rhwydwaith a ddatblygwyd drwy GBE Local. 

Cyfleoedd Tir Cyhoeddus

Mae tir cyhoeddus yn darparu un o'r cyfleoedd mwyaf heb ei gyffwrdd ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y tir yn y DU ar gyfer GBE. Rydym mewn sefyllfa unigryw i wireddu ei botensial fel datblygwr, gan oresgyn cyfuniad o heriau cydlynu a rheoleiddio. Mae perchnogaeth gyhoeddus o asedau ar dir cyhoeddus yn cynnig manteision amlwg. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Y cyhoedd yn dal gwerth y tir a'r refeniw gweithredol.
  • Potensial ar gyfer cydlynu strategol ar draws tir cyhoeddus yn unol â Chynllun Ynni Gofodol Strategol NESO.
  • Gwell stiwardiaeth amgylcheddol a chymunedol. 

Roedd dadansoddiad geo-ofodol cychwynnol o dirfeddianwyr canolog llywodraeth y DU wedi nodi hyd at 300km2 o dir a allai fod yn addas ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y tir14. Mae dadansoddiad pellach o hyfywedd ac archwiliadau gyda thirfeddianwyr cyhoeddus eraill ar y gweill.

Drwy ddatgloi datblygiadau ar yr ystâd gyhoeddus, gan gynnwys tir sy'n eiddo i lywodraeth ganolog y DU, llywodraethau datganoledig ac awdurdodau lleol, mae gan GBE y potensial i wneud cyfraniad hollbwysig at y broses o gyflwyno ynni glân.

Drwy ddatblygu ar dir cyhoeddus, mae gan GBE y gallu unigryw i ysgogi cyfalaf preifat yn gyfleoedd newydd sy'n dod i'r amlwg. Bydd y dull cydweithredol hwn hefyd yn helpu i fynd i'r afael â’r heriau unigryw mae'r sector cyhoeddus wedi'u hwynebu o ran creu modelau busnes hyfyw, megis diffyg cyfalaf a chyfyngiadau benthyca. 

Gallai hyd at 330km2 o dir sy’n eiddo i’r llywodraeth yn y DU fod yn addas ar gyfer ynni adnewyddadwy.
 

Ynni ar y Tir – Ein dull buddsoddi

Bydd GBE yn defnyddio gwahanol ddulliau gweithredu mewn gwahanol sectorau, i fod yn berchen ar asedau a'u gweithredu ar ran y cyhoedd, ar yr un pryd â chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o fagu momentwm drwy ei fuddsoddiadau.

Ein gweledigaeth ar gyfer ynni ar y tir

  • Yn y tymor canolig, sefydlu busnes Cynhyrchydd Pŵer Annibynnol llawn.
  • Meithrin gallu datblygu i ddatgloi potensial ynni tir cyhoeddus.
  • Sefydlu arbenigedd ar draws amrywiaeth o dechnolegau cynhyrchu a storio ynni.

Rhaglen Energy, Engineered in the UK

Bydd datgloi cyfleoedd newydd i hybu defnydd ynni adnewyddadwy ar y tir yn atgyfnerthu cadwyni cyflenwi ac yn cefnogi peirianwyr a gosodwyr.

Mae sicrhau mantais wrth fentro’n gynnar mewn perthynas â thechnolegau sy'n dod i'r amlwg yn rhoi llwyfan i fusnesau yn y DU fanteisio ar angen byd-eang cynyddol am allu i storio trydan glân am gyfnod hir (LDES).

Datblygu ar y Tir

Byddwn yn canolbwyntio ar gychwyn, datblygu, perchnogi a gweithredu prosiectau ynni glân mewn technolegau sefydledig sydd â llwybrau i'r farchnad yn barod. Gallwn wneud hyn ar ein pen ein hunain neu mewn partneriaethau a mentrau ar y cyd ag eraill, gan gaffael a datblygu'r galluoedd mewnol angenrheidiol.

Datblygu drwy gydol y cylch oes:

Byddwn yn ymgymryd â chyfleoedd datblygu newydd proffidiol ar raddfa fawr gyda'r gallu i ddal neu werthu cyfalaf mewn meysydd a nodwyd fel blaenoriaethau strategol. Mae ail-bweru safleoedd presennol yn cynnig cyfle i fanteisio i'r eithaf ar y llif o brosiectau ynni gwynt ar y tir sy’n bodoli’n barod. Bydd GBE hefyd yn ceisio cyd-fuddsoddi yn y cyfnod datblygu diweddarach i feithrin arbenigedd a chryfhau refeniw.

Datgloi cyfleoedd tir cyhoeddus:

Byddwn yn blaenoriaethu goresgyn cyfuniad o heriau cydlynu a rheoleiddio er mwyn datgloi datblygiadau ar dir cyhoeddus. 

Cyfleoedd lleol a chymunedol:

Bydd GBE yn chwarae rhan flaenllaw gyda grwpiau ynni lleol, wrth ddarparu strwythurau rhanberchnogaeth a manteision cymunedol, gan ymgysylltu'n rhagweithiol â'r gadwyn gyflenwi ddomestig a'r cymunedau sy'n cynnal asedau ynni glân.

Bydd GBE yn ceisio cyd-fynd â Chynllun Ynni Gofodol Strategol (SSEP)16 NESO i sicrhau bod ein prosiectau yn y lleoliad gorau posibl er budd y system ynni. Bydd gweithgareddau GBE yn ceisio lliniaru cyfyngiadau'r grid, lleihau costau'r system, a darparu buddion system leol er mwyn cyflwyno systemau ynni glanach a mwy gwydn. 

Ynni ar y Tir – Pam storio?

Mae buddsoddi mewn hyblygrwydd carbon isel yn ategu ein hasedau adnewyddadwy sy'n ein galluogi i adeiladu portffolio cytbwys sy'n sicrhau'r gwerth system mwyaf.

Cyd-destun 

Mae asedau storio yn cydbwyso'r grid drwy storio trydan sy'n cael ei gynhyrchu ar adegau pan fydd galw'r wlad yn isel,  a'i ryddhau pan fydd y galw'n codi eto. Mae'r asedau hyn yn chwarae rhan hollbwysig, gan ategu technolegau adnewyddadwy sy'n cynhyrchu trydan yn ysbeidiol ar sail ein tywydd.

Mae angen asedau storio ar ein system ynni glân sy'n gwefru ac yn rhyddhau'n gyflym i ddarparu gwasanaethau grid a chydbwyso yn y tymor byr, yn ogystal â storio sy'n gallu cadw a rhyddhau ynni dros gyfnodau hirach i ymdopi â chyfnodau lle nad oes gwynt.

Mae llwybrau NESO yn gofyn am hyd at 33 GW o fatris tymor byr, batris ïon lithiwm yn gyffredinol, erbyn 20358, o’i gymharu â’r capasiti presennol o 7 GW. Yn ogystal â hynny, mae’r llwybrau hynny yn amcangyfrif y bydd angen hyd at 10 GW o gapasiti LDES erbyn 2035, i fyny o 2.7 GW heddiw13

Mae LDES yn derm cyffredinol sy'n cwmpasu amrywiaeth o dechnolegau gwahanol, sy'n amrywio o gysyniadau cyfnod cynnar yr holl ffordd i dechnolegau sydd wedi'u profi'n llwyddiannus gyda Lefel Parodrwydd Technoleg 9

Mae LDES yn derm cyffredinol sy'n cwmpasu amrywiaeth o dechnolegau gwahanol, sy'n amrywio o gysyniadau cyfnod cynnar yr holl ffordd i dechnolegau sydd wedi'u profi'n llwyddiannus gyda Lefel Parodrwydd Technoleg 9.

Y Cyfle

Er bod storio tymor byr yn dechnoleg sydd wedi hen ennill ei phlwyf, mae cyfleoedd i GBE ddadrisgio uchelgeisiau cyflawniad uchel. 

Yn yr un modd, er bod trefn cap a llawr31 LDES cyntaf y DU yn ceisio datgloi technolegau hanfodol fel Storfeydd Ynni Hydro wedi'i Bwmpio (PHES), gyda'r ffenestr gyntaf yn ceisio cynnal 2.7 - 7.7 GW mewn capasiti LDES newydd, drwy ddadrisgio refeniw, ni all liniaru'r rhwystrau rhag cyflwyno LDES yn gyfan gwbl. Mae hyn yn golygu bod cyfleoedd i GBE chwarae rhan: 

Maint y risg a'r cyllid sydd eu hangen ar gyfer storio ar raddfa fawr: bydd GBE yn ystyried ei rôl o ran rhoi hyder i'r farchnad gyflwyno technolegau o'r fath sydd â gofynion cyfalaf sylweddol ymlaen llaw, sy'n wynebu cyfnodau adeiladu hir, gyda chyfyngiadau'r gadwyn gyflenwi yn herio llwybrau cyflawni. 

Y technolegau cychwynnol y mae eu hangen ar gyfer sero net: bydd GBE hefyd yn archwilio cefnogi technolegau LDES mwy cychwynnol sy'n cario risgiau uwch, gan gynnwys parodrwydd is ar gyfer technoleg, ansefydlogrwydd y gadwyn gyflenwi a risgiau gweithredol – sydd oll yn effeithio ar archwaeth buddsoddwyr. Gallai sefydlu arbenigedd domestig mewn technolegau LDES mwy cychwynnol ddarparu cyfleoedd IP ac allforio wrth i dechnolegau aeddfedu. Fodd bynnag, mae risgiau uwch yn perthyn i’r technolegau hyn, gan gynnwys lefelau parodrwydd is ar gyfer technoleg, ansefydlogrwydd y gadwyn gyflenwi a risgiau gweithredol – mae pob un o’r rhain yn effeithio ar archwaeth buddsoddwyr. 

Ynni ar y Tir – Ein dull buddsoddi o ran hyblygrwydd a storio

Ciplun lefel uchel o amrywiaeth o dechnolegau hyblyg, gan gydnabod bod gan ddulliau datblygu technoleg y potensial i esblygu yn y farchnad. 

Ynni ar y Tir – Ein dull buddsoddi o ran hyblygrwydd a storio   Ciplun lefel uchel o amrywiaeth o dechnolegau hyblyg, gan gydnabod bod gan ddulliau datblygu technoleg y potensial i esblygu yn y farchnad.

Ein rôl o ran hyblygrwydd

Byddwn yn ceisio mewnwthio cyfalaf sector preifat ar gyfer technolegau sefydledig ar yr un pryd â dadrisgio prosiectau ar wahanol gamau o aeddfedrwydd i gydbwyso cynhyrchu refeniw tymor agosach, gyda'r hyn a ddysgwyd, a diogelwch y grid yn y tymor hwy.

Cyflymu ac ysgogi cyfalaf preifat sylweddol:

  • Cefnogi'r gwaith o gyflwyno prosiectau yn y tymor agos drwy fuddsoddi cyfalaf i ddadrisgio prosiectau datblygu, gan weithredu fel prif fuddsoddwr i ysgogi cyfalaf preifat.
  • Byddwn yn ceisio rhannu'r gwaith o ddatblygu prosiectau, gan feithrin gallu gwerthfawr yn y marchnadoedd hyblygrwydd. 

Dadrisgio ac ysgogi technolegau newydd

  • Byddwn hefyd yn edrych ar ein rôl o ran gwthio buddsoddiad sector preifat i mewn i dechnolegau uwchraddio hanfodol. Byddwn yn ceisio troi arloesedd yn brosiectau y gellir buddsoddi ynddynt ac sy'n cyflawni gweithrediadau masnachol.
  • Byddwn yn cefnogi’r ffocws ar dechnolegau sydd â'r potensial i gyfrannu at gymysgedd ynni'r DU, gyda llwybr presennol i'r farchnad, lle gallwn gyflymu'r broses o leihau costau.
  • Byddwn yn galluogi'r DU i sefydlu safle arwain byd-eang, gan roi cadwyn gyflenwi'r DU (sylfaen peirianneg) i fod mewn sefyllfa fanteisiol i wasanaethu neu allforio. 

Ynni ar y Tir – Ein dull

Bydd ein swyddogaeth Ynni ar y Tir yn cyflawni fesul cam, gan ysgogi partneriaethau i sicrhau llwyddiant cynnar, ar yr un pryd â chynllunio'n strategol ar gyfer y tymor hwy.

Partneriaethau strategol

Bydd GBE yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus a’r sector preifat i gyflymu'r broses o gyflwyno ynni adnewyddadwy ar y tir a chytuno ar fodelau masnachol gyda thirfeddianwyr allweddol.

Byddwn yn gweithio gyda’r prif dirfeddianwyr cyhoeddus a datblygwyr i greu mwy o gyfleoedd ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys y rheini sy'n cael eu cynnal ar dir cyhoeddus. Yn benodol, rydym yn datblygu partneriaeth â Trydan a fydd yn ein galluogi i feithrin ein gwybodaeth a'n gallu o ran datblygiadau ar y tir, a helpu Trydan i gyflymu'r defnydd o ynni ar y tir yng Nghymru. 

Cam 1

  • Cynyddu galluoedd datblygu mewnol yn gyflym.  
  • Archwilio prosiectau cychwyn cynnar sydd â chyfrannau rheoli, gan ddatblygu partneriaethau â thirfeddianwyr cyhoeddus a'r llywodraethau.
  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer mentrau ar y cyd a chyfrannau lleiafrifol lle mae'r hyn a ddysgwyd yn gwella datblygiadau.
  • Archwilio cyfleoedd i fuddsoddi er mwyn cefnogi prosiectau hyblygrwydd pwysig.

Cam 2

  • Dal asedau mewn gweithrediadau, gan ennill refeniw cyson o'r farchnad bŵer.
  • Meddu ar amrywiaeth o brosiectau sydd wrthi'n cael eu datblygu, gyda rhai ohonynt yn agosáu at eu penderfyniad buddsoddi terfynol o'r cychwyn.
  • Archwilio swyddogaeth cyd-gasglydd ynni adnewyddadwy sy'n sicrhau arbedion i bartneriaid cyhoeddus a phreifat sy'n prynu modiwlau ffotofoltaidd. 

Ynni ar y Tir – Crynodeb

Pam Ynni ar y Tir?

  • Cynyddu'r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy ar y tir, gan ddatgloi cyfleoedd ar gyfer cychwyn prosiectau ar dir preifat a chyhoeddus.
  • Ychwanegu at enillion cyson a rhagweladwy mewn technolegau sefydledig, gan gydbwyso’r risg ar draws ein portffolio fel bod modd mynd ar drywydd technolegau arloesol risg uwch.
  • Archwilio cyfleoedd ar draws technolegau hyblyg, gan roi hyder i'r farchnad mewn perthynas â phrosiectau cymhleth a meithrin arbenigedd domestig mewn technolegau cychwynnol. 

Sut byddwn yn gwahaniaethu ac yn buddsoddi? 

  • Datgloi’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â thir cyhoeddus, gan weithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr cyhoeddus ac ysgogi cyfalaf preifat i gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg.
  • Datblygu, perchnogi a gweithredu prosiectau ynni glân mewn technolegau sefydledig, gan feithrin arbenigedd, cryfhau refeniw a sicrhau manteision i'r gymuned.
  • Buddsoddi cyfalaf a rhannu gwaith datblygu prosiectau er mwyn dadrisgio ar yr un pryd â meithrin galluoedd mewn marchnadoedd hyblygrwydd. Ystyried ein rôl o ran ysgogi buddsoddiad preifat mewn technolegau hyblygrwydd cychwynnol i gyflymu gostyngiadau mewn costau. 

Ein Partneriaethau

  • Rydym yn edrych ar bartneriaeth â Trydan, a fyddai’n cefnogi ei genhadaeth i ddatblygu 1 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy newydd ar dir cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2040.
  • Byddwn yn parhau i edrych ar gyfleoedd eraill i feithrin partneriaethau strategol i ddarparu ynni ar y tir.
  • Lle y caniateir yn gyfreithiol, byddwn yn gweithio gyda NWF i benderfynu pa sefydliad sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi prosiectau ar y tir, neu a yw buddsoddi ar y cyd yn addas, gan sicrhau bod cyfalaf cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon a’i fod yn cael yr effaith fwyaf. 

Canlyniadau

  • Darparu system lanach a mwy diogel sy'n cefnogi twf economaidd a gwydnwch cenedlaethol.
  • Sicrhau y bydd y buddion a ddychwelir i'r cyhoedd yn tyfu dros amser drwy ail-fuddsoddi mewn rhagor o gapasiti ynni glân.
  • Sicrhau annibyniaeth ariannol GBE ar yr un pryd â chryfhau gwerth asedau ynni sy'n eiddo cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Blaenoriaeth 3 – Ynni ar y Môr 

Datgloi'r tir newydd nesaf i’w dorri ym maes ynni ar y môr: dyfroedd dyfnach a’r twf diwydiannol y gall ei sicrhau.

Pam Ynni ar y Môr?

Bydd GBE yn sbarduno momentwm yn y sector ynni gwynt dŵr dwfn, gan ymgymryd â'r risgiau a'r buddsoddiadau sydd eu hangen i ddatgloi twf yn y sector. 

Cyd-destun

Disgwylir i wynt ar y môr chwarae rhan hollbwysig o ran cynnydd y DU tuag at sero net, gyda llwybrau NESO yn gofyn am hyd at 86 GW o gapasiti gosodedig erbyn 2035, sef pum gwaith yn fwy na’r capasiti presennol8,10

O ystyried graddfa’r hyn sydd angen ei wneud, bydd yn rhaid i ddatblygwyr archwilio cyfleoedd mewn dyfroedd dyfnach. Fel y genhedlaeth nesaf o ynni gwynt ar y môr, disgwylir i ddatblygiadau dŵr dwfn adeiladu ar lwyddiant ynni gwynt ar y môr gwaelod sefydlog. Mae llwyfannau arnofiol neu is-strwythurau hybrid yn datgloi cyfleoedd mewn lleoliadau ar y môr sy'n rhy ddwfn ar gyfer y sylfeini sefydlog presennol, ac maent yn gallu manteisio ar gyflymderau gwynt uwch a mwy cyson. 

Mae'r DU yn uwch-bŵer gwynt ar y môr, ac mae'n gartref i bron i 20% o gapasiti gwynt ar y môr yn fyd-eang10,32, sy'n ein rhoi mewn sefyllfa i fod yn arweinwyr mewn datblygiadau newydd yn y sector. Ar hyn o bryd dim ond 277 MW o wynt dŵr dwfn sy'n cael ei ddefnyddio'n fyd-eang, ac mae 80 MW ohono yn y DU33. Fodd bynnag, gyda chadarnhad o wely'r môr wedi'i neilltuo a fydd yn galluogi 25 GW i gael ei ddatblygu yn yr Alban, mae gan wynt dŵr dwfn y potensial i chwarae rhan ganolog yng nghymysgedd ynni'r DU34

Gallai cyflwyno technolegau gwynt dŵr dwfn olygu bod modd i gyfanswm ynni gwynt ar y môr fod yn fwy na 100 GW erbyn 2050, sy’n golygu ei fod yn rhan bwysig o gyflawni cyllidebau carbon mewn economi sydd wedi'i thrydaneiddio'n helaeth2.

Ffigur 7: Ystadegau ynni ar y môr (gwynt) 

Gallai cyflwyno technolegau gwynt dŵr dwfn olygu bod modd i gyfanswm ynni gwynt ar y môr fod yn fwy na 100 GW erbyn 2050, sy’n golygu ei fod yn rhan bwysig o gyflawni cyllidebau carbon mewn economi sydd wedi'i thrydaneiddio'n helaeth2.      Ffigur 7: Ystadegau ynni ar y môr (gwynt)

Rhagamcanion Defnydd

Gan fod angen cynyddu capasiti gwynt ar y môr yn gyflym, mae'n bwysig edrych ar bob un o’r opsiynau ar gyfer ei gyflawni, gan gynnwys datgloi'r llif o brosiectau ynni gwynt dŵr dwfn. Mae'r dadansoddiad yn amcangyfrif, ar sail y trywydd cyflwyno presennol, y gallai fod rhwng 20 – 38 GW o ddiffyg mewn capasiti gwynt ar y môr erbyn 2035, o'i gymharu â Senarios Ynni’r Dyfodol NESO8,14

Ynni ar y Môr – Sut byddwn ni'n gwahaniaethu?

Yn fyd-eang, mae dros 80% o’r safleoedd gwynt ar y môr arfaethedig mewn dyfroedd sy’n ddyfnach na 60 metr35. Mae budd economaidd sylweddol i’w chael wrth neidio ar y fantais symud yn gynnar ar ynni gwynt dŵr dwfn. Mae'r Tasglu Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr yn amcangyfrif y gallai adeiladu llif o brosiectau arnofiol y DU mewn dyfroedd dwfn gyfrannu £47 biliwn at economi'r DU36

Daw hyn â chyfle arwyddocaol am swyddi, ac amcangyfrifir y bydd 100,000 o swyddi yn y sector ynni gwynt ar y môr yn y DU erbyn 203037. Mae rhagoriaeth peirianneg Prydain yn y diwydiannau morol, amddiffyn ac alltraeth yn golygu bod sylfaen sgiliau ffyniannus i adeiladu arni. 

Mae cyflwyno ynni gwynt dŵr dwfn yn dod â'r potensial am drawsnewid cyfiawn o swyddi tanwydd ffosil i’r sectorau ynni glân. Gall Aberdeen, sef cartref pencadlys GBE, fanteisio ar ei arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes olew a nwy; mae 60% o’r sgiliau a’r gallu yn gorgyffwrdd â'r technolegau hyn36. Mae'r Môr Celtaidd hefyd mewn sefyllfa i fod yn ganolbwynt ar gyfer cadwyni cyflenwi a datblygu ynni gwynt dŵr dwfn, gan ei fod wedi'i leoli'n agos at Bort Talbot a Phorthladd Bryste.

Mae rolau ar y cyd GBE fel datblygwr prosiectau a buddsoddwr cadwyn gyflenwi yn golygu ein bod mewn sefyllfa unigryw i gydlynu'r sectorau cyhoeddus a phreifat i sbarduno buddsoddiad ar draws y gadwyn gwerth. Gall hyn ddatgloi prosiectau dyfroedd dwfn, a fydd yn gofyn am safoni cydrannau, llongau ac offer arbenigol; porthladdoedd gyda mannau gosod mwy, mannau angori mewn dyfroedd dyfnach, a chraeniau codi pwysau trwm. 

Sicrhau gostyngiad mewn costau drwy ddefnydd

Mae gostyngiadau sylweddol o ran costau wedi cael eu gwireddu mewn ffermydd ynni gwynt ar y môr gwaelod sefydlog, gyda Phrisiau Taro'n gostwng bron i 70% rhwng y Rownd Dyrannu gyntaf a'r bedwaredd Rownd38.

Er mwyn gwireddu'r gostyngiadau posibl tebyg mewn costau gwynt dŵr dwfn, gall GBE gefnogi'r prosiectau profi ac arddangos a fydd yn galluogi dysgu wrth ddatrys heriau peirianneg critigol sy'n ymwneud â rhyngweithio â thyrbinau ac is-strwythurau. Mae buddsoddiad parhaus mewn prosiectau profi ac arddangos yn hanfodol ar gyfer profi technolegau, mireinio prosesau a meithrin hyder gan ddatgloi gostyngiadau hirdymor mewn costau drwy ddiwydiannu ac uwchraddio. Mae gan y DU 18 o ffermydd gwynt ar y môr â gwaelod sefydlog gweithredol sy'n 100 MW neu lai o ran maint, ond dim ond dau safle dŵr dwfn gweithredol (arnofiol) ar y raddfa hon39.

Gallwn fentro’n ofalus mewn ffordd na fydd y farchnad ei hun yn ei wneud, gan gefnogi a dadrisgio rhagor o brosiectau profi ac arddangos i symud y dechnoleg yn ei blaen i lawr y gromlin costau. Bydd GBE yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cadwyni cyflenwi gwynt arnofiol ar y môr a dŵr dwfn ac yn rhoi rhagor o brosiectau ar waith i ddatgloi gostyngiadau mewn costau; bydd yn goruchwylio'r trawsnewid o'r ychydig brosiectau cynnar sydd eisoes yn weithredol i sefydlu'r DU fel arweinydd diwydiant ym maes ynni gwynt dŵr dwfn.

Ffigur 8: Amcangyfrif o effaith mwy o ddefnydd ar gostau Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr, Offshore Renewable Energy Catapult 40 .

Ffigur 8: Amcangyfrif o effaith mwy o ddefnydd ar gostau Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr, Offshore Renewable Energy Catapult 40 .

Ynni ar y Môr  – Ein dull buddsoddi

Bydd GBE yn defnyddio dull deuol i fynd i'r afael â gwendidau yn y gadwyn gyflenwi a phweru'r genhedlaeth nesaf o ynni gwynt ar y môr ym Mhrydain.

Buddsoddiad Prosiectau: Ysgogi cyfalaf, cyflymu’r broses o gyflwyno

Fel technoleg sydd â photensial sylweddol i gyfrannu at gymysgedd ynni'r DU, bydd GBE yn buddsoddi'n strategol mewn prosiectau lle gall ein presenoldeb ysgogi cyfalaf ehangach a chefnogi defnydd.

Buddsoddiad Strategol

  • Cefnogi'r gwaith o gyflwyno prosiectau yn y tymor agos drwy fuddsoddi cyfalaf i ddadrisgio prosiectau datblygu, gan ysgogi cyfalaf preifat.
  • Dadrisgio drwy ddangos ein hyder yn y dechnoleg, gan gefnogi defnydd tymor hwy, lle gall ein cyfraniad gyflymu'r broses o leihau costau. 

Meithrin gallu drwy ddysgu

Byddwn yn fuddsoddwr gweithredol yn y prosiectau rydym yn eu cefnogi. Bydd hyn yn golygu eistedd ar fyrddau prosiect a defnyddio profiad drwy fuddsoddiadau ynni ar y môr i feithrin arbenigedd sy'n sail i'n gwaith datblygu busnes arall a swyddogaethau cadwyn gyflenwi. 

Rhaglen Energy, Engineered in the UK: Adeiladu’r gadwyn gyflenwi

Ochr yn ochr â’n buddsoddiadau mewn datblygu prosiectau, bydd GBE yn datgloi gweithgynhyrchu domestig ar draws cadwyni cyflenwi ynni gwynt ar y môr sefydlog a dŵr dwfn. Fel rhan o'n rhaglen Energy, Engineered in the UK sy’n werth £1 biliwn, byddwn yn cyflwyno mentrau sy'n lleihau cyfyngiadau cyflenwi mewn ynni gwynt ar y môr â gwaelod sefydlog ar yr un pryd â gosod y DU mewn sefyllfa lle gall fanteisio ar y cyfle byd-eang a ddaw yn sgil mentro i ddyfroedd dyfnach, gan gyflwyno Strategaeth Ddiwydiannol y DU.

Bydd rhan o’r rhaglen yn cynnwys cyllid grant drwy ein Cronfa Cadwyn Gyflenwi GBE ar gyfer cydrannau cyfyngedig fel ceblau, monobolion a naseli, yn ogystal ag ymyriadau strategol yn y farchnad i sicrhau bod modd gweithgynhyrchu cyfaint uchel o sylfeini arnofiol y gellir eu holrhain. 

Ein gweledigaeth ar gyfer ynni ar y môr:

  • Datgloi potensial y DU fel awdurdod dylunio byd-eang ar gyfer gwynt dŵr dwfn.
  • Buddsoddi mewn cyflymu'r broses o fasnacheiddio a lleihau costau gwynt dŵr dwfn.
  • Sicrhau bod potensial diwydiannol gwynt dŵr dwfn yn cael ei wireddu yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru a'r Alban.

Astudiaeth achos: Fferm Wynt Arnofiol ar y Môr Pentland

Ym mis Tachwedd eleni fe wnaethom gyhoeddi buddsoddiad yn Fferm Wynt Arnofiol ar y Môr Pentland ochr yn ochr â'r Gronfa Gyfoeth Wladol a Banc Buddsoddi Cenedlaethol yr Alban, pob un â'r opsiwn i fuddsoddi £50 miliwn.

Bydd gan Fferm Wynt Arnofiol ar y Môr Pentland, oddi ar arfordir Dounreay yn yr Alban, y gallu i gynhyrchu digon o drydan gwyrdd i bweru hyd at 70,000 o gartrefi pan fydd yn weithredol, a disgwylir iddi greu a chynnal dros 1,000 o swyddi yn ystod ei chyfnod adeiladu a gweithredu. 

Ynni ar y Môr – Ein dull hirdymor

Byddwn yn cyflawni fesul cam, gan ysgogi partneriaethau i sicrhau llwyddiant cynnar, ar yr un pryd â chynllunio'n strategol ar gyfer y tymor hwy.

Partneriaethau strategol

Byddwn yn gweithio ar y cyd ag ystod ehangach o bartneriaid ledled y DU i gyflawni ein hamcanion uchelgeisiol.  

Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Partneriaeth Twf Gwynt ar y Môr (OWGP): Byddwn yn adeiladu ar ein gwaith gyda'r Bartneriaeth Twf Gwynt ar y Môr (OWGP) yn ei rôl fel Corff Cyflawni ar gyfer y Cynllun Twf Diwydiannol i gydlynu cyllid tuag at brosiectau effaith uchel mewn ardaloedd cadwyn gyflenwi allweddol.
  • Ystad y Goron ac Ystad y Goron yr Alban: Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Ystad y Goron ac Ystad y Goron yr Alban i ddatgloi ardaloedd gwely'r môr ledled y DU i gyflymu datblygiad gwynt ar y môr. 

Cam 1

  • Caffael cyfrannau lleiafrifol mewn prosiectau ynni ar y môr dŵr dwfn i ysgogi cyfalaf a chefnogi prosiectau hyd at y dyddiad gweithrediadau masnachol.
  • Meithrin dealltwriaeth a gallu technegol mewnol o ran datblygu prosiectau sy’n ymwneud ag asedau gwynt dŵr dwfn.  
  • Cydlynu buddsoddiad ar hyd y gadwyn gyflenwi.
  • Cystadleuaeth Rhaglen Sbarduno Sylfeini Dŵr Dwfn i ddatgloi gwerth biliynau o fuddsoddiad yng nghadwyni cyflenwi’r DU.

Cam 2

  • Dal asedau mewn gweithrediadau, gan ennill refeniw cyson o'r farchnad bŵer.
  • Potensial i werthu asedau wedi'u hadeiladu, i ac ailgylchu refeniw yn ôl i'r camau trawsnewid.
  • Parhau i ddatblygu gallu ar draws cyfnodau gwahanol yn natblygiad y prosiect.
  • Datblygu dull buddsoddi strategol yn y gadwyn gyflenwi, lle gall GBE gael effaith. 

Ynni ar y Môr – Crynodeb

Pam Ynni ar y Môr?

Mae'r DU yn gartref i lif sylweddol o brosiectau ynni gwynt dŵr dwfn. Gyda rhagoriaeth peirianneg ym Mhrydain a synergeddau â'r sector olew a nwy, mae sylfaen sgiliau ffyniannus i alluogi trawsnewid swyddi yn gyfiawn i'r sector ynni glân.

Gall goresgyn heriau peirianneg a'r gadwyn gyflenwi ddatgloi defnydd a lleihau costau. Gallai neidio ar y fantais symud yn gynnar ar y technolegau hyn arwain at werth economaidd sylweddol i’r DU. 

Sut byddwn yn gwahaniaethu ac yn buddsoddi?

Cefnogi prosiectau profi ac arddangos, gan gefnogi technoleg ddatblygol a chymryd risgiau wedi'u cyfrifo i sicrhau gostyngiadau mewn costau yn gyflymach.

Cefnogi'r gwaith o gyflwyno prosiectau yn y tymor agos i ddadrisgio ac ysgogi buddsoddiad preifat.

Cydlynu buddsoddiad ar hyd y gadwyn gyflenwi, ochr yn ochr â’n rhaglen Energy, Engineered in the UK, er mwyn ddatblygu cadwyn gyflenwi dŵr dwfn wydn. 

Ein Partneriaethau

  • Ffurfio partneriaethau strategol allweddol gydag Ystad y Goron ac Ystad y Goron yr Alban i ddatgloi ardaloedd gwely'r môr ar gyfer gwynt ar y môr.
  • Adeiladu ar y bartneriaeth gyda'r Bartneriaeth Twf Gwynt ar y Môr (OWGP) yn ei rôl fel Corff Cyflawni’r Cynllun Twf Diwydiannol, i gydlynu cyllid sector cyhoeddus a sector preifat i sicrhau canlyniadau gwell i’r cyhoedd, datblygwyr prosiectau a buddsoddwyr.
  • Lle y caniateir yn gyfreithiol, byddwn yn gweithio gyda NWF i benderfynu pa sefydliad sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi prosiectau ar y môr, neu a yw buddsoddi ar y cyd yn addas, gan sicrhau bod cyfalaf cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon a’i fod yn cael yr effaith fwyaf. 

Canlyniadau

  • Creu a chynnal swyddi a phrentisiaethau o safon uchel mewn ardaloedd o'r wlad sydd eu hangen fwyaf.
  • Helpu gweithwyr i symud i, ac ar draws, yr economi werdd, gan greu'r gweithlu medrus sydd ei angen i drawsnewid i ynni adnewyddadwy yn y DU.
  • Ysgogi marchnadoedd a thechnolegau newydd lle gall y DU gystadlu ac arwain yn fyd-eang. 

Ein portffolio

Byddwn yn gweithredu ar draws ein meysydd blaenoriaeth i lunio portffolio sy'n cydbwyso anghenion ynni glân y DU yn y tymor byr a’r hirdymor, gan ddarparu gwerth cymdeithasol ar yr un pryd â chynhyrchu elw. Byddwn yn edrych ar ein gweithgarwch buddsoddi a datblygu yn y tymor hir, gan sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn y tymor agos.

Bydd ein portffolio yn cael ei strwythuro’n ofalus i gydbwyso’r risg. Byddwn yn cyfuno prosiectau risg uwch, twf uchel â buddsoddiadau risg is sy’n fwy sefydlog i sicrhau gwydnwch ac enillion cynaliadwy. Byddwn yn sicrhau bod ein portffolio yn dod â lefel o ychwanegedd yn gyffredinol, lle gallai ychwanegedd gyfeirio at gynhyrchu ynni glân, swyddi, cynnwys y gymuned neu berchnogaeth gyhoeddus broffidiol na fyddai wedi digwydd heb GBE.

Mae ein dull gweithredu'n ymwneud â chydbwyso cyflawni'r nodau amrywiol sydd gennym fel cwmni. Rydym yn cydnabod y bydd rhai gweithgareddau'n sbarduno canlyniadau mewn un maes ond yn llai cryf mewn meysydd eraill. Cyflwynir ein dull gweithredu cychwynnol yn y fan yma, a byddwn yn ei ddatblygu wrth i gyfleoedd gael eu cyflwyno ac wrth i ddeinameg y farchnad newid, gan ailasesu ble i ddyrannu ein cyfalaf a'n hadnoddau i sicrhau ein bod yn cyflawni'r ystod o ganlyniadau rydym wedi ymrwymo iddynt. 

GBE Ventures

Er bod GBE wedi amlinellu ei feysydd blaenoriaeth craidd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd aros yn agored i gyfleoedd newydd sy'n dod i'r amlwg ac sy'n cyd-fynd â'n hamcanion cyffredinol. Bydd cangen GBE Ventures yn bodoli i sicrhau ein bod yn gallu ystyried technolegau a phrosiectau eraill sydd â photensial clir i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein cenhadaeth gyffredinol.

Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dechnolegau alltraeth eraill fel ynni'r llanw, neu dechnolegau sydd â budd strategol eang fel dal, defnyddio a storio carbon (CCUS), neu hydrogen a ddefnyddir i storio trydan. Bydd y gangen Ventures yn gweithredu'n ganolog ac yn eistedd y tu allan i'n tri phrif faes busnes, gan gymryd cyfrifoldebau lleiafrifol mewn prosiectau a chwmnïau sydd â photensial twf uchel ac ôl troed arloesi cryf yn y DU. 

Rhaglen Energy, Engineered in the UK

Mae'r Datganiad o Flaenoriaethau Strategol yn egluro y dylai GBE ganolbwyntio ar oresgyn cyfyngiadau yn y gadwyn gyflenwi nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â chreu swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda. Mae gwneud hynny'n hanfodol i'n cenhadaeth o berchnogaeth gyhoeddus gyda phwrpas.

Mae ein rhaglen Energy, Engineered in the UK (EEUK) gwerth £1 biliwn wedi’i dylunio i ddatgloi cyfleoedd diwydiannol o'r camau trawsnewid i ynni adnewyddadwy, ac i sicrhau bod y DU yn datblygu galluoedd parhaol yn nhechnolegau ynni glân y dyfodol. Bydd y rhaglen yn cefnogi technolegau ar draws y sector ynni, a byddwn yn gwneud dewisiadau beiddgar a bwriadol i fuddsoddi yn y gwaith o adeiladu sofraniaeth technoleg hirdymor, gan leoli'r DU i arwain yn fyd-eang. 

Bydd ein rhaglen yn darparu cyfuniad o grantiau a buddsoddiadau; bydd hynny’n ein galluogi i ymateb i fethiannau yn y farchnad a siapio marchnadoedd yn rhagweithiol fel buddsoddwr hirdymor.

  • Drwy ein Cronfa Cadwyn Gyflenwi GBE gwerth £300m: Rhwydweithiau a Gwynt ar y Môr (ein cynnyrch cyntaf o dan Golofn 1), byddwn yn darparu grantiau i gynyddu trefniadau gweithgynhyrchu domestig o ran cydrannau hanfodol, gan liniaru cyfyngiadau a darparu swyddi da ledled y DU.
  • Dan Golofn 2, byddwn yn darparu ymyriadau strategol i gyflymu'r broses o gyflwyno technolegau mwy cychwynnol yn fasnachol, gan ddechrau â gwynt dŵr dwfn.
  • Dan Golofn 3, byddwn yn lansio Cronfa Fuddsoddi yn ystod yr Haf 2026, i’n galluogi i gymryd cyfrannau masnachol ar draws cadwyni cyflenwi ynni glân ac adeiladu diwydiannau'r dyfodol a fydd yn sail i'r trawsnewid i ynni glân yn fyd-eang. 

Ar draws pob Colofn, byddwn yn canolbwyntio ar greu a chefnogi swyddi da a medrus ledled y DU, gan weithio'n agos â Grŵp Cynghori Undebau Llafur GBE.

Drwy gydol y broses o gyflwyno'r rhaglen hon, byddwn yn gweithredu fel cynullydd, gan weithio'n agos â'n partneriaid strategol a gweithredu fel ‘Tîm y DU’ i ddatrys heriau cymhleth ar draws y system. 

Cadwyni Cyflenwi Moesegol

Rydym yn gwreiddio safonau moesegol ar draws GBE, ar lefel y bwrdd ac ar lefel weithredol, a thrwy gyflwyno rhaglen Energy, Engineered in the UK. Byddwn yn datblygu Fframwaith Risg Cadwyn Gyflenwi gynhwysfawr, sy'n cael ei oruchwylio gan yr Uwch Gyfarwyddwr Atebol ar gyfer Cadwyni Cyflenwi Moesegol, y Farwnes Frances O’Grady. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn ymgysylltu â diwydiant a chymdeithas sifil i godi safonau, archwilio dewisiadau amgen yn y DU i arallgyfeirio cadwyni cyflenwi risg uchel, a gweithio'n rhyngwladol i gyd-fynd â phartneriaid byd-eang blaenllaw. 

Cyflawni mewn cydweithrediad ag eraill

Ysgogi’r dirwedd buddsoddi cyhoeddus i gyflawni meysydd blaenoriaeth: 

Mae gan GBE rôl benodol, ond ategol, yn y dirwedd buddsoddi cyhoeddus ehangach. Byddwn yn cydweithredu ag ystod o sefydliadau:

Y Gronfa Gyfoeth Wladol (NWF): Bydd GBE ac NWF yn chwarae rhan yn y gwaith o alluogi cyflwyno Ynni Glân:

  • Arbenigedd NWF: Banc polisi'r DU, yn buddsoddi cyfalaf mewn amrywiaeth o ynni glân yn ogystal ag amrywiaeth o sectorau eraill.
  • Ein harbenigedd: Hyrwyddwr ynni glân y DU, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu, gan ddefnyddio buddsoddiad ynni glân i gefnogi'r ffocws hwn.

The Scottish National Investment Bank: Bydd GBE ac SNIB yn buddsoddi mewn prosiectau ynni glân sy’n gysylltiedig â’r Alban: 

  • Arbenigedd SNIB: Buddsoddi er mwyn cefnogi eu cenadaethau Sero Net, Lle ac Arloesi.
  • Ein harbenigedd: Canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau ynni glân a chadwyni cyflenwi ledled y DU. 

British Business Bank: Bydd GBE a BBB yn cefnogi busnesau llai ac yn chwarae rhan yn y gwaith o alluogi cyflwyno Ynni Glân:

  • Arbenigedd BBB: cefnogi busnesau bach a chanolig (pob sector yn y DU) i gael gafael ar gyllid i ddechrau a datblygu.
  • Ein harbenigedd: galluogi cymunedau a busnesau lleol i ddatgloi manteision ynni glân. 

UK Research and Innovation: Bydd GBE ac UKRI yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi arloesedd:

  • Arbenigedd UKRI: arloesi yn y ffordd rydym yn datblygu prosiectau ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi.
  • Ein harbenigedd: trawsnewid ymchwil, cynnyrch a gwasanaethau yn llwyddiannau masnachol. 

Cyflawni ar draws ein pedair gwlad

Ni yw hyrwyddwr ynni glân y wlad, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwerth ym mhedair cornel y DU. Drwy ein gweithgareddau a thrwy' hadran sy’n ein noddi, byddwn yn gweithio gyda'r llywodraethau datganoledig ar faterion lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli i sicrhau ein bod yn cyflawni gwerth yn effeithlon yn ogystal ag adlewyrchu anghenion pobl leol. 

Ein cyrff cynghori:

Mae gan GBE rôl benodol, ond ategol, yn y dirwedd buddsoddi cyhoeddus ehangach. Byddwn yn cydweithredu ag ystod o sefydliadau:

  • Pwyllgor Cynghori Undebau Llafur: Fforwm i ymgysylltu ar faterion allweddol perthnasol sy'n ymwneud â sgiliau, swyddi a'n hymrwymiad ar y cyd i drawsnewid cyfiawn.
  • Tasglu Aberdeen GBE: Cafodd ei sefydlu i ddarparu arweinyddiaeth strategol, dealltwriaeth gymunedol ac atebion sy'n seiliedig ar leoedd er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni cenhadaeth GBE yng Ngogledd-ddwyrain yr Alban.
  • Pwyllgor Cynghori Rhanddeiliaid GBE: Mae'n cynnwys uwch arweinwyr ac arbenigwyr ar draws y diwydiant ynni, cyrff masnach a'r byd academaidd. Mae'n gweithredu fel mecanwaith adborth, gan brofi effeithiolrwydd ein darpariaeth. 

Cydweithio â chanolfannau arloesi

Byddwn yn cydweithio â phartneriaid i gefnogi arloesedd sy'n arwain y sector. Yn 2013, roedd Innovate UK wedi creu rhwydwaith o Gatapyltiau mewn diwydiannau twf uchel a ddyluniwyd i bontio'r bwlch rhwng y llywodraeth, prifysgolion, sefydliadau ymchwil a busnesau arloesol o bob maint, i droi ymchwil mawr yn llwyddiant masnachol i gefnogi diwydiant ac i sbarduno twf economaidd. 

  • Mae Energy Systems Catapult yn helpu busnesau yn y DU i elwa o'r newid seismig i system ynni lanach. Mae ei dîm o 250 a mwy o arbenigwyr yn defnyddio cyfleusterau profi blaenllaw, offer modelu a data o fwy na 500 o'u prosiectau ymchwil i gefnogi cwmnïau arloesol i brofi, treialu a graddio nwyddau a gwasanaethau newydd.
  • High Value Manufacturing Catapult yw rhwydwaith arloesedd gweithgynhyrchu'r DU. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys chwe chanolfan arloesi arbenigol, ac mae'n cefnogi cwmnïau o bob maint i ffynnu, gan weithio ar draws sectorau diwydiannol i ddarparu sgiliau, y gadwyn gyflenwi ac arloesi ym maes technoleg.
  • Fel rhan o rwydwaith HVM Catapult:
  • Mae'r Ganolfan Cyfansoddion Genedlaethol yn bartner arloesi i ddiwydiant sy'n arbenigo mewn deunyddiau a strwythurau cyfansawdd a pheirianneg ddigidol.
  • Mae AMRC yn helpu cwmnïau i fabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu arloesol.  
  • Mae Sefydliad Gweithgynhyrchu Cenedlaethol yr Alban yn ganolfan arloesi dan arweiniad y diwydiant sy'n cryfhau cadwyni cyflenwi ynni glân y DU drwy weithgynhyrchu digidol a seiliedig ar ddata, peirianneg deunyddiau a phrosesau, gweithgynhyrchu uwch, cylcholrwydd a sgiliau. 

Ein pobl a’n gwerthoedd

Mae llwyddiant ein pobl yn ganolog i gyflawni ein cenhadaeth. Bydd set glir o werthoedd cyffredin yn sail i'r llwyddiant hwn er mwyn arwain ein gwaith a'n galluogi i gyflawni ein nodau.

Ein Pobl

Mae ein pobl wrth galon y gwaith o gyflawni ein cenhadaeth yn llwyddiannus. Rydym wedi ymrwymo i ddenu a meithrin gweithlu amrywiol sy'n ymgorffori'r gorau o ddiwydiant ynni'r DU.

Byddwn yn buddsoddi yn y canlynol: 

  • Sgiliau a gallu. Bydd ein gweithlu yn cael yr offer a’r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gyflawni. Drwy ganolbwyntio ar dechnolegau blaenoriaeth, gall ein staff feithrin cymhwysedd technegol a masnachol dwfn yn y marchnadoedd hyn a meysydd ffocws ein partneriaid, a fydd yn ein galluogi i ddod ag arbenigedd proffesiynol dwfn i mewn i'n busnes. Byddwn hefyd wedi ymrwymo i ddysgu a datblygu'n barhaus, gan gefnogi gyrfaoedd ein staff a pharhau i fod yn barod i addasu i newidiadau yn y farchnad.
  • Llais y gweithiwr. Rydym yn gwerthfawrogi’r profiadau a’r cefndiroedd amrywiol mae ein staff wedi’u cael o'r sectorau preifat a chyhoeddus, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r rhain i siapio dyfodol ein cwmni. Croesewir pob safbwynt, a byddwn yn sefydlu mecanweithiau ymgysylltu ac adborth mewnol rheolaidd i sicrhau bod barn ein staff yn ganolog i'n penderfyniadau. Byddwn hefyd yn rhoi cefnogaeth i holl staff GBE gael eu cynrychioli gan undeb llafur.
  • Cydnabyddiaeth a gwobrwyo. Rydym am i waith caled ein pobl gael ei gydnabod ac i’w cyflawniadau gael eu gwobrwyo'n briodol. Byddwn yn atgyfnerthu diwylliant o ragoriaeth gyda gwobrau cyson a hael a chynlluniau cydnabod arddangos a dathlu cyfraniadau ein staff.

Mae GBE yn falch o fod yn sefydliad lle mae pobl yn cael eu cefnogi i dyfu'n broffesiynol, gan weithio ar faterion hollbwysig i bobl ledled y DU. 

Ein Gwerthoedd

Bydd ein gwerthoedd yn diffinio pwy ydym ni, sut rydym yn gweithio a beth rydym yn sefyll drosto. Byddant yn llywio ein penderfyniadau, yn siapio ein cydweithrediad ac yn uno ein pobl. 

Dyma ein gwerthoedd:

  • Beiddgar. Nid oes gennym ofn cymryd risgiau sy’n cael eu rheoli, ac rydym yn ymfalchïo yn ein huchelgais. Byddwn yn gwneud penderfyniadau'n hyderus ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o'r ystyriaethau sydd ar waith.
  • Effeithiol. Byddwn yn gwmni sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan gynnal ffocws clir a chyson ar ganlyniadau i fusnesau, cymunedau a defnyddwyr.
  • Entrepreneuraidd. Byddwn yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd newydd, gan ddangos arloesedd a chrebwyll cadarn wrth wneud penderfyniadau ariannol.
  • Cynhwysol. Byddwn yn cydweithio ar draws timau, sefydliadau a sectorau i sicrhau canlyniadau gwell i'r cyhoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal y gwerthoedd hyn drwy ein holl weithgareddau, a byddwn yn eu rhoi wrth galon ein busnes o ddydd i ddydd. 

Sut rydym yn cynnal busnes 

Bydd ein cwmni nid yn unig yn cael ei ddiffinio gan ein blaenoriaethau, ond sut rydym yn dewis eu cyflawni. Byddwn yn meithrin diwylliant o ragoriaeth yn ein holl waith, gan osod a chyrraedd safonau uchel a sicrhau canlyniadau i'n partneriaid a'r cyhoedd ym mhob rhan o'r DU.

Ein Pencadlys yn Aberdeen

Mae Aberdeen yn ganolfan o'r radd flaenaf ar gyfer peirianneg, gwasanaethau a chadwyn gyflenwi yn sector ynni Ewrop. Mae llawer o gwmnïau yn Aberdeen eisoes yn gyrru'r trawsnewid i ynni adnewyddadwy, yn enwedig ym maes gwynt ar y môr a'i ddyfodol mewn dŵr dwfn.

Mae’r Alban, yn gyffredinol, yn ganolfan ar gyfer arbenigedd mewn ynni. Er bod Aberdeen yn esiampl ym maes peirianneg, y gadwyn gyflenwi a gwasanaethau, mae’r Alban hefyd yn rhagori mewn gwasanaethau proffesiynol, cyllid a datblygu, gyda chanolfannau ar gyfer arloesi, technoleg ac arwain agweddau ym maes ynni glân.

Aberdeen yw ein hasgwrn cefn corfforaethol, gyda'r rhan fwyaf o'n gweithwyr wedi'u lleoli yma, gan ffurfio sbardun strategol GBE o safle modern a deinamig yng nghanol y ddinas. Byddwn yn archwilio swyddfeydd lloeren y tu hwnt i Aberdeen i sicrhau ein bod yn gallu dod â'r doniau gorau ym maes ynni yr Alban i ategu calon ein gweithgareddau yn Aberdeen. 

Ein Diwylliant

Bydd ein diwylliant yn cael ei siapio drwy gyfuno'r gorau o'r sectorau preifat a chyhoeddus i ymgymryd â'n busnes gyda'r effeithlonrwydd, y proffesiynoldeb a'r cymhwysedd mwyaf posibl. Bydd ein diwylliant yn meithrin arloesedd, yn cefnogi ein gwerthoedd ac yn ein galluogi i gyflawni ein cenhadaeth.

Gwasanaeth

Byddwn yn gweithredu diwylliant o wasanaeth, gan gyfeirio ein gweithgarwch yn llwyr tuag at brofiad ein cwsmeriaid a'n partneriaid. Byddwn yn ymatebol, yn ymgysylltu ac yn ddibynadwy yn ein cysylltiadau busnes, ac yn cyfuno'r ffyrdd gorau o weithio yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat i sicrhau manteision amlwg i fusnesau a chymunedau.

Hyblygrwydd

Byddwn yn monitro cyd-destun ein gwaith yn gyson, gan ymateb i amgylchiadau sy'n newid a chynnal cysondeb â'n nodau. Byddwn yn sicrhau bod ein gweithrediadau'n parhau i fod yn fodern ac yn addas i'r diben, gan fabwysiadu dull digidol yn gyntaf a chynnal effeithlonrwydd.

Atebolrwydd

Byddwn yn mabwysiadu diwylliant o fod yn agored ac yn atebol, lle bydd llwyddiant ein penderfyniadau'n cael ei werthuso’n rheolaidd ac y dysgir ohono, ac y bydd heriau gan staff a phartneriaid yn cael eu cydnabod, eu croesawu a'u gweithredu.

Ein Haddewidion 

Nid oes lle i gam-drin hawliau dynol na chaethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw llafur gorfodol yn digwydd o fewn GBE na'i gadwyni cyflenwi. Byddwn yn arweinydd sector yn y maes, gan fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yn uniongyrchol drwy’r ned Cadwyn Gyflenwi Foesegol sydd gennym, a defnyddio darpariaethau deddfwriaethol i wahardd cyflenwyr sy'n defnyddio arferion anghyfreithlon ac anfoesol rhag bidio am gontractau GBE. 

Iechyd a diogelwch

Bydd GBE yn arwain ar ddiogelwch. Byddwn yn gofyn am ymrwymiad penodol gan bartneriaid a chontractwyr nid yn unig i gydymffurfio â chyfreithiau iechyd a diogelwch ac arferion da'r diwydiant, ond rhagori arnynt, a byddwn yn sefydlu System Rheoli Diogelwch gadarn o fewn GBE. Mae diogelwch da yn golygu mwy na gweithdrefnau yn unig, felly byddwn yn meithrin diwylliant lle bydd pob aelod o’n staff yn cydnabod pwysigrwydd diogelwch a chanlyniadau gwaith anniogel.

Yr amgylchedd a natur

Bydd bioamrywiaeth, cynaliadwyedd a diogelu'r amgylchedd yn cael eu gwreiddio’n gadarn mewn penderfyniadau datblygu. P’un a ydym yn buddsoddi mewn ynni gwynt ar y môr, yn gosod paneli solar ar dir cyhoeddus, neu’n cefnogi prosiectau ynni cymunedol, byddwn yn ceisio sicrhau canlyniadau natur-bositif a lleihau niwed amgylcheddol.

Hawliau gweithwyr

Bydd hawliau gweithwyr yn flaenoriaeth graidd ym mhrosiectau GBE. Bydd ein holl brosiectau yn sicrhau mynediad at undebau llafur ac yn annog cydnabyddiaeth ohonynt. Byddwn yn hyrwyddo amodau gwaith diogel, telerau cyflogaeth diogel a pheidio â gwahaniaethu. 

Ein trefn lywodraethu

Fel cwmni sy’n eiddo cyhoeddus a chorff hyd braich (ALB) DESNZ, mae gan GBE fframwaith llywodraethiant cynhwysfawr a chadarn i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ac annibyniaeth weithredol ar DESNZ. Mae fframwaith llywodraethiant GBE yn defnyddio’r arferion gorau o Gyrff Hyd Braich cyfatebol, enghreifftiau rhyngwladol o gwmnïau ynni sy’n cael cefnogaeth y wladwriaeth, a'r sector preifat i wneud y canlynol:

  • Ymgorffori gwersi a ddysgwyd gan y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan lynu wrth y cod ymarfer da ar gyfer llywodraethiant corfforaethol.  
  • Galluogi ystwythder, arloesedd a gwerth am arian.  
  • Sicrhau eglurder o ran mandadau pwyllgorau, gwneud penderfyniadau ac annibyniaeth lle bo angen.  

Bydd mwy o wybodaeth am drefniadau llywodraethu DESNZ/GBE yn cael ei chynnwys mewn Dogfen Fframwaith GBE a gyhoeddir.  

Rolau llywodraethu  

Drwy gydol gweithrediadau GBE, mae gan ei Gyfranddalwyr, aelodau'r Bwrdd a'r Pwyllgor Gwaith rolau gwahanol, ac mae’r rhain wedi’u crynhoi yn y tabl ar y dde.  

Yn ogystal â'r rolau hyn, mae Prif Weithredwr GBE, fel swyddog cyfrifyddu, yn gyfrifol am weithrediadau GBE o ddydd i ddydd, rheolaeth a defnydd o arian cyhoeddus, ac mae'n atebol i Senedd y Deyrnas Unedig a'r cyhoedd mewn perthynas â'r rhain.  

Mae trothwyon ar gyfer gwneud penderfyniadau a chymeradwyo gwariant yn cael eu datblygu i gydbwyso ymreolaeth ac ystwythder GBE, gyda goruchwyliaeth ac arweiniad priodol gan lywodraeth y DU i sicrhau bod GBE yn cyflawni ei amcanion fel cwmni sy'n eiddo cyhoeddus.

Rôl: Cyfranddaliwr (Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net)

Cyfrifoldebau llywodraethu: Fel unig Gyfranddaliwr GBE, bydd DESNZ yn penodi Cadeirydd GBE a dau gynrychiolydd Cyfranddalwyr, a bydd yn cymeradwyo ei gyfarwyddwyr anweithredol eraill.

Rôl: Bwrdd 

Cyfrifoldebau llywodraethu: Gwneud penderfyniadau sy'n uwch na’r trothwyon y cytunwyd arnynt ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol, yn ogystal â chraffu a herio'r penderfyniadau o fewn trothwyon y Pwyllgor, gan sicrhau bod GBE yn cyflawni’r nodau strategol sydd wedi’u nodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn y Datganiad o Flaenoriaethau Strategol.

Bod yn gyfrifol am sicrhau bod gan GBE y rheolaethau a'r prosesau rheoli risg gofynnol ar waith i roi sicrwydd y byddant yn cael eu cyflawni.

Rôl: Pwyllgor Gweithredol

Cyfrifoldebau llywodraethu: Gwneud penderfyniadau hyd at y trothwyon y cytunwyd arnynt a gwneud argymhellion i'r Bwrdd pan fydd penderfyniad y tu hwnt i'r trothwyon hynny. Bod yn gyfrifol am weithredu fframwaith llywodraethiant GBE o ddydd i ddydd, a glynu wrtho, er mwyn sicrhau bod nodau strategol yn cael eu cyflawni o fewn Cynllun Strategol GBE a’r Datganiad o Flaenoriaethau Strategol. 

Pwyllgorau Llywodraethu  

Mae strwythurau llywodraethu GBE yn sicrhau bod digon o ffocws ar feysydd cyflawni hanfodol a bod penderfyniadau ar draws gweithgareddau masnachol ac anfasnachol yn cael eu gwahanu.  

Fel elfen sylfaenol o weithrediadau GBE, mae ystyriaethau Iechyd, Diogelwch, Cymdeithasol ac Amgylcheddol wedi'u gwreiddio ym mhob un o bwyllgorau llywodraethu GBE, yn y prosesau gwneud penderfyniadau, ac yng nghyfrifoldebau Cyfarwyddwyr Anweithredol a gweithwyr ar bob lefel o'r busnes. 

 

Mesur llwyddiant

Bydd asesu effaith GBE yn helpu i arwain a llywio ein gweithgarwch. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cyflawni pob un o’n nodau ac yn llwyddo o ran ein cenhadaeth gyffredinol i gyflwyno ynni glân a'r diwydiannau sy'n cefnogi hynny yn gyflymach, fel bod trethdalwyr, talwyr biliau, gweithwyr a chymunedau yn y DU yn elwa ar ynni glân, diogel a lleol.

Ar ben hynny, fel cwmni ynni cyhoeddus rydym wedi ymrwymo i dryloywder ac atebolrwydd llwyr o ran ein cynnydd i'n rhanddeiliaid ac i'r cyhoedd yn ehangach.

Rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu effaith ein gweithgareddau. Byddwn yn olrhain ein gweithgarwch, ac yn adrodd arno o bryd i'w gilydd, gan gynnwys drwy ddefnyddio metrigau craidd ar draws ein gwaith ariannol, cyflogaeth, meithrin gallu, ac effaith leol. Bydd hyn yn cynnwys nifer y prosiectau ynni cymunedol rydym yn eu cefnogi, nifer y swyddi, a phryd a faint o gapasiti ynni glân newydd mae ein gweithgarwch yn ei gefnogi.

Byddwn yn parhau i ddatblygu ac ehangu'r rhestr hon dros amser, gan sefydlu cylchoedd a dulliau cyhoeddi rheolaidd lle bo hynny'n briodol. 

Byddwn yn olrhain…

Gweithgarwch – nifer y prosiectau a buddsoddiadau

Meithrin gallu – maint prosiectau (gan gynnwys olrhain perchnogaeth gymunedol)

Cyflogaeth ac effaith leol – swyddi a dosbarthiad prosiectau

Materion ariannol – £ sydd wedi’u buddsoddi a’u hennill

Beth fyddwn ni’n ei wneud nesaf… 

Cyhoeddi Fframwaith Effaith a Pherfformiad i ategu sut mae GBE yn gwerthuso ac yn monitro ei weithgareddau ar draws ei holl feysydd swyddogaethol. Bydd hyn yn cynnwys nodi sut bydd GBE yn sicrhau ychwanegedd ar draws ei bortffolio, drwy ddiffinio egwyddorion ychwanegedd y farchnad yn glir.

Cyhoeddi Strategaeth Werthuso sy'n rhannu cynllun GBE i ddarparu gwerthusiad cadarn, cymesur a thryloyw ar draws ei ystod lawn o weithgareddau. 

Map 

Byddwn yn diweddaru ein Cynllun Strategol bob dwy flynedd i sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd yn gryf â’r dirwedd ynni. Byddwn hefyd yn adrodd yn flynyddol ar ein gweithgarwch fel rhan o'n hymrwymiad i dryloywder. 

 

Rhestr Termau

ALB – Corff Hyd Braich

Sefydliad cyhoeddus sy'n gweithio'n annibynnol ar weinidogion llywodraeth y DU ond sy'n dal yn atebol i lywodraeth y DU.

BESS – System Storio Ynni mewn Batris

Gosodiad batri mawr sy'n storio trydan i'w ddefnyddio'n ddiweddarach.

Cadwyn Gyflenwi

Pob un o’r cwmnïau a’r camau sy'n gysylltiedig â chreu, darparu a chynnal a chadw offer a phrosiectau ynni.

CCUS – Dal, Defnyddio a Storio Carbon

Technoleg sy'n dal carbon deuocsid o ffatrïoedd neu orsafoedd pŵer, yna naill ai'n ei storio dan y ddaear neu'n ei ddefnyddio mewn prosesau eraill. 

COD - Dyddiad Gweithrediadau Masnachol

Y dyddiad y daw ased yn weithredol, ar ôl cwblhau'r cam adeiladu.

CP2030 – Pŵer Glân 2030

Cynllun llywodraeth y DU i ffynonellau ynni glân gynhyrchu o leiaf 95% o'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain Fawr.

DESNZ – Yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net

Adran weinidogol Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am ddiogeledd ynni, diogelu talwyr biliau, a chyrraedd net sero.

FLOW – Fferm Wynt Arnofiol ar y Môr

Tyrbinau gwynt sy'n cael eu hadeiladu ar blatfformau arnofiol neu is-strwythurau hybrid, sy’n golygu bod modd eu rhoi mewn dyfroedd dyfnach lle mae'r gwynt yn gryfach. 

Gorsaf Bŵer Rithwir

System sy'n cysylltu llawer o ffynonellau ynni bach (fel paneli solar a batris) fel bod modd iddynt weithio gyda'i gilydd fel un orsaf bŵer.

GW – Gigawat

Mesur o bŵer. Mae un GW yn un biliwn wat, neu'n fil MW. Mae’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio maint capasiti storio a chynhyrchu ynni.

GWh – Gigawat-awr

Mesur o ynni. Mae un GWh yn ddigon o drydan i bweru dros 600,000 o gartrefi yn y DU am awr lle mae'r aelwyd gyffredin yn defnyddio 14.2 MWh y flwyddyn (Ofgem).

IPP – Cynhyrchydd Pŵer Annibynnol

Cwmni sy'n adeiladu gorsafoedd pŵer ac yn eu rhedeg ond nad yw'n rhan o'r cyfleustod cenedlaethol.

LDES – Storfa Trydan Am Gyfnod Hir

Technolegau sy'n gallu storio trydan am nifer o oriau neu ddiwrnodau hyd yn oed, gan gynnwys storfa hydro sy’n cael ei bwmpio.

Llif (Llif Prosiectau)

Grŵp o brosiectau sy'n cael eu cynllunio neu eu hadeiladu, ac y disgwylir iddynt ychwanegu at y cyflenwad ynni yn y dyfodol. 

MCA - Awdurdod Cyfun Maerol

Corff cyfreithiol wedi'i ffurfio o ddau gyngor neu fwy

MW – Megawat

Mesur o bŵer. Mae un MW yn un miliwn wat.

MWh – Megawat-awr

Mesur o ynni. Mae’r aelwyd gyffredin yn y DU yn defnyddio 2.7 MWh o drydan a 11.5 MWh o nwy (Ofgem).

NESO – Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol

Y gorfforaeth gyhoeddus annibynnol sy'n rhedeg system drydan Prydain Fawr, yn cynllunio dyfodol y systemau trydan a nwy, ac yn gweithredu fel cynghorydd strategol i lywodraeth y DU.

NESO FES – Senarios Ynni’r Dyfodol y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol

Adroddiadau sy’n amlinellu llwybrau credadwy at sero net erbyn 2050, gan ddangos sut gallai system ynni'r DU gael ei datblygu. 

NWF - Y Gronfa Gyfoeth Wladol

Banc polisi llywodraeth y DU.

Ofgem – Y Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan

Rheoleiddiwr y llywodraeth ar gyfer y marchnadoedd trydan a nwy naturiol is ym Mhrydain’.

PPA - Cytundeb Prynu Pŵer

Contract hirdymor ar gyfer cyflenwi trydan, yn aml gydag amodau yn ymwneud â chyfnod amser, pris a ffynhonnell y trydan (h.y. adnewyddadwy).

PHES – Storfa Ynni Hydro wedi'i Bwmpio

Ffordd o storio ynni drwy bwmpio dŵr i fyny'r allt pan fydd trydan ychwanegol, yna gadael iddo lifo'n ôl i lawr i gynhyrchu pŵer pan fo angen.

SSEP NESO – Cynllun Ynni Gofodol Strategol y Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol

Cynllun ar gyfer cynhyrchu a storio ynni yn y DU rhwng 2030 a 2050. 

 

Cyfeiriadau 

1 Gov.uk (2025) ‘Statement of Strategic Priorities to Great British Energy’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/great-british-energy-statement-of-strategic-priorities/statement-of-strategic-priorities-to-great-british-energy-html  

2 Yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (2024) ‘Clean Power 2030 Action Plan’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/clean-power-2030-action-plan  

3 Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (2025) ‘Future Energy Scenarios 2025’. Ar gael yn: https://www.neso.energy/publications/future-energy-scenarios-fes  

4 Y Pwyllgor Newid Hinsawdd (2025) ‘The Seventh Carbon Budget’. Ar gael yn: https://www.theccc.org.uk/publication/the-seventh-carbon-budget/  

5 Gov.uk (2025) ‘Industrial Strategy’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/industrial-strategy  

6 Gov.uk (2025) ‘Clean Energy Industries Sector Plan”. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/clean-energy-industries-sector-plan  

7 Yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol (IEA) (2025) ‘Renewables 2025. Analysis and forecasts to 2030’. Ar gael yn: https://iea.blob.core.windows.net/assets/76ad6eac-2aa6-4c55-9a55-b8dc0dba9f9e/Renewables2025.pdf  

8 Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (2025) ‘Future Energy Scenarios 2025 Data Workbook’. Ar gael yn: https://www.neso.energy/document/364551/download  

9 Yn seiliedig ar ddata Ofgem ynghylch defnydd trydan aelwyd gyffredin yn y DU o 2.7MWh y flwyddyn. Ar gael yn: https://www.ofgem.gov.uk/information-consumers/energy-advice-households/average-gas-and-electricity-use-explained  

10 RenewableUK (2025) ‘UK wind energy database’. Ar gael yn: https://www.renewableuk.com/energypulse/ukwed  

11 RenewableUK gyda’r Tasglu Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr (2024) ‘Global floating offshore wind project pipeline grows by one-third over 12 months’. Ar gael yn: https://www.renewableuk.com/news-and-resources/press-releases/global-floating-offshore-wind-project-pipeline-grows-by-one-third-over-12-months/  

12 Gov.uk (2025) ‘Solar photovoltaics deployment’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/statistics/solar-photovoltaics-deployment  

13 Gov.uk (2025) ‘Digest of UK Energy Statistics (DUKES): electricity’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/statistics/electricity-chapter-5-digest-of-united-kingdom-energy-statistics-dukes  

14 Cynghorwyr arbenigol trydydd partïon. Amcangyfrifon yn unig yw’r rhagolygon defnydd, ac maent yn adlewyrchu deddfwriaeth gyfredol a chynlluniau a gyhoeddwyd yn ffurfiol. Nid yw'r dadansoddiad hwn yn ystyried newidiadau sydd heb eu cadarnhau yn y polisi nac yr amgylchedd economaidd yn y dyfodol.

15 Gov.uk (2025) ‘Clean Energy Jobs Plan’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/clean-energy-jobs-plan/clean-energy-jobs-plan-html  

16 NESO (2025) ‘Cynllunio Ynni Gofodol Strategol (SSEP)’. Ar gael yn: https://www.neso.energy/what-we-do/strategic-planning/strategic-spatial-energy-planning-ssep  

17 GBE (2025) ‘Great British Energy to cut bills for hospitals and schools’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/news/great-british-energy-to-cut-bills-for-hospitals-and-schools  

18 Community Energy England (2025) ‘Community Energy State of the Sector’. Ar gael yn: https://communityenergyengland.org/state-of-the-sector/  

19 DESNZ (2025) ‘DESNZ Public Attitudes Tracker: Renewable Energy Summer 2025, UK’. Ar gael yn: https://assets.publishing.service.gov.uk/media/68ff546ebcb10f6bf9bef903/DESNZ_Public_Attitudes_Tracker_-_Renewable_Energy__Summer_2025__UK.pdf  

20 Llywodraeth yr Alban (2025) ‘Climate Change Plan: monitoring report 2025’. Ar gael yn: https://www.gov.scot/publications/climate-change-plan-monitoring-report-2025/  

21 Llywodraeth Cymru (2023) ‘Diweddariad 2 argymhellion chwe mis archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy’. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/diweddariad-2-argymhellion-chwe-mis-archwiliad-dwfn-ynni-adnewyddadwy-strategaeth-html  

22 Gov.uk (2025) ‘Great British Energy to extend solar scheme to military sites’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/news/great-british-energy-to-extend-solar-scheme-to-military-sites  

23 Bray et al (2024) ‘The co-benefits and risks of smart local energy systems: A systematic review’.  

24 Jans et al (2024) ‘How bottom-up and top-down governance of community energy initiatives affects citizens’ perceptions, acceptability and willingness to join’.

25 Hogan, J L. (2024) ‘Why does community ownership foster greater acceptance of renewable projects? Investigating energy justice explanations’.

26 Braunholtz-Speight, T et al (2020). ‘Business Models and Financial Characteristics of Community Energy in the UK’.

27 C. Pons-Seres de Brauwer, J.J. Cohen, (2020) Renewable and Sustainable Energy Reviews, Volume 133, 2020, Ar gael yn: https://doi.org/10.1016/j.rser.2020.110300  

28 Cooperatives Unleashed: Doubling the size of the co-operatives sector New Economics Foundation, 2018 Ar gael yn: https://neweconomics.org/uploads/files/co-ops-unleashed.pdf  

29 Regen (2024) ‘Power of Places: A vision for local energy in the UK’. Ar gael yn: https://www.regen.co.uk/insights/power-of-places-a-vision-for-local-energy-in-the-uk  

30 RenewableUK (2023) ‘Repowering Onshore Wind’. Ar gael yn: https://www.energy-uk.org.uk/wp-content/uploads/2023/03/Repowering_Onshore_Wind.pdf  

31 Gov.uk (2025) ‘Long Duration Electricity Storage: technical details of the scheme and its operation’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/long-duration-electricity-storage-technical-details-of-the-scheme-and-its-operation  

32 RenewableUK (2025) ‘Global operational offshore wind capacity up 14% in last 12 months to 85 gigawatts’. Ar gael yn: https://www.renewableuk.com/news-and-resources/press-releases/global-operational-offshore-wind-capacity-up-14-in-last-12-months-to-85-gigawatts/  

33 International Renewable Energy Agency (2024) ‘Floating offshore wind outlook’. Ar gael yn: https://www.irena.org/Publications/2024/Jul/Floating-offshore-wind-outlook  

34 Tasglu Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr (2024) ‘Floating Wind: Anchoring the Next Generation Offshore’. Ar gael yn: https://www.renewableuk.com/news-and-resources/publications/floating-wind-anchoring-the-next-generation-offshore/  

35 Global Wind Energy Council (2021) ‘Floating Offshore Wind – a Global Opportunity’.

36 Tasglu Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr (2024) ‘Floating Wind: Anchoring the next generation offshore’. Ar gael yn: https://www.renewableuk.com/media/scccdrxe/floating-offshore-wind-2050-vision-final.pdf  

37 Gov.uk (2025) ‘Job estimates for wind generation by 2030: methodology note’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/renewable-technologies-future-job-estimates-methodology/job-estimates-for-wind-generation-by-2030-methodology-note  

38 Low Carbon Contracts Company (2022) ‘Government publishes Allocation Round 4 results’. Ar gael yn: https://www.lowcarboncontracts.uk/news/desnz-has-published-the-results-of-allocation-round-4/  

39 Gov.uk (2025) ‘Renewable Energy Planning Database: October 2025’. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/renewable-energy-planning-database-monthly-extract  

40 Offshore Renewable Energy Catapult (2024). ‘Floating Offshore Wind Cost Reduction Pathways’. Ar gael yn: https://fowcoe.co.uk/industry-insights/reports/fow-cost-reduction-pathways/